Newyddion S4C

Penodi Cyfarwyddwr newydd Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

06/11/2023
Mair Edwards, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Mae mudiad yr Urdd wedi penodi Mair Edwards yn Gyfarwyddwr newydd Gwersyll Glan-llyn, yn dilyn ymddeoliad Huw Antur.

Dywedodd y mudiad ieuenctid bod gan Ms Edwards dros 16 mlynedd o brofiad o weithio ar lefel strategol ac fel aelod o uwch dîm yn y maes datblygu ac adfywio cymunedol o fewn y sector dai.

Dywedodd Mair Edwards mai ei blaenoriaeth fydd parhau gyda'r gwaith mae'r Urdd a'r gwersyll eisoes yn ei wneud.

“Mae darparu’r cyfleoedd gorau i bobl ifanc wedi bod yn greiddiol i fy ngwaith ers degawdau bellach, ac am barhau i fod yn flaenoriaeth gen i yn rhinwedd y swydd hon,” meddai.

“Dros y blynyddoedd mae Glan-llyn wedi llwyddo i wireddu cynlluniau sylweddol er mwyn gwella safonau a chyfleusterau’r gwersyll, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol i alluogi hyn i ddigwydd." 

'Pennod newydd'

Mae'r gwersyll hefyd wedi cwblhau gwaith uwchraddio gwerth £2 miliwn.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gwaith datblygu ac uwchraddio’r Ganolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr wedi’i gwblhau.

Cafodd y cynllun ei ariannu drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Mae’r Ganolfan yn cynnwys llety a chyfleusterau hunanarlwyo, ardaloedd cyfarfod, ystafelloedd newid, a gweithdy. Mae’r adeilad newydd hefyd yn cynnig ystafelloedd gyda golygfeydd dros Lyn Tegid.

Image
Canolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr Gwersyll Glan-llyn
Canolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr Gwersyll Glan-llyn. Llun: Urdd Gobaith Cymru 

Dywedodd yr Urdd y bydd Glan-llyn hefyd yn agor safle gwersylla newydd sbon, Cae Penllyn, fydd yn cynnig cegin, adnoddau hunanarlwyo ac ardal gymunedol aml-ddefnydd i grwpiau mawr a bach o wersyllwyr erbyn 2024.

Gall y datblygiad hwn ddenu nifer o blant i'r gwersyll, medd Mair Edwards.

"Mae Canolfan Ddŵr newydd Glan-llyn gystal ag unrhyw ganolfan yn unrhyw le, ac mae hyn yn rhoi’r hyder i ni barhau i ddenu plant a phobl o bob cwr i gymryd rhan mewn gweithgareddau o bob math.”

Ychwanegodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’n wych gweld y cyfleusterau newydd hyn wedi’u cwblhau ac yn cael eu mwynhau gan blant a phobl ifanc a staff y Gwerysll. 

"Mae’r Ganolfan Ddŵr newydd yn ein galluogi i barhau i gynnig gweithgareddau awyr agored o’r ansawdd uchaf yng Nglan-llyn, ac yn rhan o weledigaeth ehangach i uwchraddio cyfleusterau Gwersylloedd yr Urdd.

Llun: Urdd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.