
Bywyd dynes ifanc o Wynedd wedi 'troi ar ben i lawr' ar ôl salwch prin
Bywyd dynes ifanc o Wynedd wedi 'troi ar ben i lawr' ar ôl salwch prin
Roedd Elain Davies wedi bod yn rhedeg pan gafodd bwl o banig wrth yrru adref.
Y bore canlynol doedd yr ofalwraig 24 oed o Chwilog yng Ngwynedd ddim yn gallu yfed na bwyta.
"O’n i’n trio cymryd cegiad o ddŵr a doedd o’m yn mynd i nunlla,” meddai wrth Newyddion S4C.
"Nes i drio cario ymlaen ond o’n i’n teimlo fel bo fi’n mynd yn wannach ac yn wannach fel oedd y munudau yn mynd heibio."
Wedi chwe wythnos o brofion, cafodd ddiagnosis o ddysffagia gweithredol (functional dysphagia), sef anhwyster llyncu prin.
O ganlyniad dydi hi ddim wedi gallu yfed na bwyta ers dros 11 wythnos, gan ddibynnu ar diwb i'w bwydo.
‘Troi fy mywyd ben i lawr’
A hithau’n fis codi ymwybyddiaeth o ddysffagia, mae Elain yn awyddus i rannu ei phrofiad.
Fel person sydd fel arfer yn "poeni dim" dywedodd bod y salwch wedi "troi fy mywyd ar ben i lawr".
"Dwi’n gweithio ers bo’ fi yn fy arddegau, felly mae’n rhyfedd i fi rŵan achos mae routine fi drwy’r ffenast gan bo’ fi methu mynd i weithio," meddai.
"A gan na swydd fi ydi gofalu am bobl eraill, mae o fath â bod y byrdda wedi troi rŵan a bo’ fi’n goro gofalu am fy hun gyntaf i gal fy hun yn ôl i’r gwaith."

Yn ôl Dr Rhys Davies o Ganolfan Walton yn Lerpwl, mae dysffagia gweithredol yn brin.
Mae’r niwrolegydd yn disgrifio'r syndrom fel "enghraifft eithafol" o anhwylder niwrolegol gweithredol (FND).
Cyflwr ydi FND sy'n effeithio ar y ffordd y mae'r ymennydd yn derbyn ac yn anfon gwybodaeth i weddill y corff.
Mae'n aml yn cael ei ddisgrifio fel problem "meddalwedd" yr ymennydd, yn hytrach na phroblem "caledwedd" fel strôc.
"Mae FND, sy'n arwain at dysffagia neu broblem benodol arall, yn ymwneud ag electrocemegau yr ymennydd a phrosesau'r meddwl," meddai.
"Ond mae'n wahanol i feigryn neu iselder, er enghraifft, oherwydd presenoldeb amhariad ar weithred niwrolegol.
"Gallai hynny fod mewn llyncu, cerdded, golwg neu hyd yn oed ymwybyddiaeth."

Dysgu sut i lyncu eto
Ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, mae Elain yn dysgu sut i lyncu eto gyda chefnogaeth therapyddion lleferydd ac iaith yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon.
"Dwi’n lwcus bo’ na ffyrdd eraill fel y tiwb i fi gael fy maeth, ond y broblem ydi dydy nhw ddim yn gwbo faint o hir mae’n mynd i gymryd," meddai.
"Mi allith o fod yn wsos, allith o fod yn fisoedd. Mae o jyst yn dal i drio a trio petha’ gwahanol a gweld be sy’n mynd i weithio.
"Dwi’n teimlo fel bo’ fi’n fabi eto yn dechrau efo liquid, bwyd meddal ac wedyn bwyd solad."
Er gwaethaf y rhwystrau o'i blaen, mae hi'n dweud ei bod hi'n benderfynol o wella – a chael mynd i'r dafarn eto.
"Mae’n mynd i fod yn broses hir, ond dwi’n reit 'styfnig, felly mi ddoith reit handi gobeithio a fydda i’n gallu cael fy mywyd yn ôl," meddai.
"Na i byth gymryd ddim byd yn ganiataol eto."