Milwyr y Gwarchodlu Cenedlaethol wedi cyrraedd Los Angeles ar ôl gwrthdaro
Milwyr y Gwarchodlu Cenedlaethol wedi cyrraedd Los Angeles ar ôl gwrthdaro
Mae milwyr Gwarchodlu Cenedlaethol America wedi cyrraedd Los Angeles i ddelio ag aflonyddwch ynghylch cyrchoedd ar fewnfudwyr heb ddogfennau.
Daw hyn wedi i'r Arlywydd Donald Trump gyhoeddi y byddai'r llywodraeth ffederal yn "camu i mewn ac yn datrys y broblem", ar ôl i'r ddinas yn nhalaith Califfornia weld ail ddiwrnod o wrthdaro rhwng protestwyr a swyddogion ffederal.
Cafodd nwy dagrau ei ddefnyddio i wasgaru torfeydd wrth i rai o drigolion ardal Paramount wrthdaro â swyddogion mewnfudo a thollau ddydd Sadwrn.
Cafodd 118 o bobl eu harestio yn y ddinas yr wythnos hon.
Mae Llywodraethwr California, Gavin Newsom, wedi condemnio'r cyrchoedd fel rhai "creulon".
Dywedodd Mr Newsom fod gweithred y llywodraeth ffederal i "gymryd drosodd Gwarchodlu Cenedlaethol California a defnyddio 2,000 o filwyr" yn "ymfflamychol yn fwriadol" a byddai ond yn "cynyddu tensiynau".
Fel arfer, llywodraethwr talaith sy'n galw'r Gwarchodlu Cenedlaethol, ond mae Donald Trump wedi defnyddio trefn sy'n caniatáu iddo gymryd rheolaeth ei hun, meddai swyddfa Gavin Newsom.
Fe wnaeth Mr Trump daro nôl ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddweud os na allai e, a Maer Los Angeles Karen Bass wneud eu gwaith, "yna bydd y Llywodraeth Ffederal yn ymyrryd ac yn datrys problem, TERFYSGWYR A LLADRON, yn y ffordd y dylid ei datrys!!!"
Llun: Reuters