‘Dim lle diogel’ yn Gaza medd y Cenhedloedd Unedig
Ychydig y gall y Cenhedloedd Unedig ei wneud i amddiffyn pobl Gaza rhag yr ymladd, yn ôl un o swyddogion y sefydliad.
Dywedodd Thomas White o asiantaeth y Cenhedloedd Unedig dros ffoaduriaid Palestina: “Dewch i ni fod yn glir, nid oes unrhyw le diogel yn Gaza ar hyn o bryd.”
Daw wrth i Israel gadarnhau eu bod nhw wedi ymosod ar ambiwlans tu allan i ysbyty fwyaf Gaza dros nos. Dywedodd llu amddiffyn Israel fod yr ambiwlans yn cael ei ddefnyddio gan Hamas.
Dywedodd gweinyddiaeth iechyd yn Gaza, sy’n cael ei rhedeg gan Hamas, fod 13 o bobl wedi eu lladd yn yr ymosodiad o’r awyr.
Fe ddechreuodd Israel ymosodiadau ar Gaza ar ôl i Hamas ladd 1,400 o bobl yn Israel ar 7 Hydref a herwgipio 200 arall.
Dywedodd y weinyddiaeth iechyd yn Gaza fod 9,000 o bobl wedi eu lladd mewn ymosodiadau gan Israel ers hynny.
Dywedodd Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu ddydd Gwener na fydd yna gadoediad dros dro gyda Hamas yn Gaza hyd nes y bydd pob un o wystlon Israel yn cael eu rhyddhau.
Mae rhagor o Brydeinwyr yn gadael Gaza ddydd Sadwrn ar ôl i awdurdodau Palestina restri 100 sy’n gymwys i groesi i’r Aifft.
Dywedodd Ysgrifennydd Tramor y DU James Cleverly fod hyn yn “newyddion positif”.