Amy Dowden i dderbyn ei thriniaeth olaf o gemotherapi
Mae seren Strictly Come Dancing, Amy Dowden, wedi cyhoeddi ei bod yn disgwyl derbyn ei thriniaeth olaf o gemotherapi.
Fe wnaeth y ddawnswraig o Gaerffili ymddangos ar raglen fyw ‘Stand Up To Cancer’ nos Wener, ac wrth siarad â’r cyflwynydd Davina McCall, cyhoeddodd y byddai ddydd Iau yn ddiwrnod olaf ei thriniaeth cemotherapi.
“Mae heddiw yn ddiwrnod da,” meddai.
“Fyddai’n cael fy sesiwn olaf o gemotherapi ddydd Iau a dwi’n edrych ymlaen at ganu’r gloch chemo ‘na.
“Mae’r flwyddyn yma wedi bod yr un anoddaf o fy mywyd.
“Ond dwi wir yn gobeithio, gyda’r llawdriniaeth dwi eisoes wedi cael a gyda’r cemotherapi, ‘mod i wedi gwneud digon,” ychwanegodd.
Inline Tweet: https://twitter.com/Channel4/status/1720533196670914710
‘Brwydr anodd’
Cafodd Ms Dowden ddiagnosis o ganser y fron, cam 3 ar ôl iddi ddarganfod y lwmp cyntaf nôl ym mis Ebrill.
Ar ôl cael mastectomi, dywedwyd wrthi fod y tiwmorau wedi lledu a darganfuwyd math arall o ganser.
Fe aeth Ms Dowden ymlaen i rannu ei bod wedi dioddef sawl salwch yn sgil ei chanser, a bod hynny wedi effeithio ei ffrwythlondeb.
“Dwi wedi cael sepsis, clotiau gwaed, dwi wedi cael triniaeth hormon ac wedi dechrau’r menopos o ganlyniad.”
“Mae’n dorcalonnus,” meddai.
Cafodd rhaglen arbennig Stand Up To Cancer ei ddarlledu’n fyw ar Channel 4 nos Wener.