Newyddion S4C

Banc Lloegr yn cadw cyfraddau llôg ar 5.25% am yr eildro

02/11/2023
Banc Lloegr

Mae Banc Lloegr wedi cadw cyfraddau llôg ar eu lefel bresennol o 5.25% unwaith eto. 

Pleidleisiodd chwe aelod o'r Pwyllgor Polisi Ariannol - sy'n gwneud y penderfyniad - i gadw'r gyfradd yr un fath. Roedd y tri aelod arall eisiau cynnydd.

Dyma'r eildro yn olynol i'r Banc benderfynu cadw'r gyfradd ar yr un lefel. 

Fe wnaeth Banc Lloegr gadw cyfraddau llôg yr un fath yn ôl ym mis Medi ar ôl codi cyfraddau 14 gwaith yn olynol ers diwedd 2021. 

Dywedodd Canghellor y Trysorlys Jeremy Hunt: “Mae chwyddiant yn gostwng, mae cyflogau’n codi ac mae’r economi’n tyfu. Mae’r DU wedi bod yn llawer mwy gwydn na’r disgwyl, ond y ffordd orau o sicrhau ffyniant yw trwy dwf cynaliadwy.

“Bydd Datganiad  yr Hydref yn nodi sut y byddwn yn hybu twf economaidd trwy ddatgloi buddsoddiad preifat, cael mwy o Brydeinwyr yn ôl i weithio, a darparu gwladwriaeth Brydeinig fwy cynhyrchiol.”

Mae’r Banc hefyd wedi israddio rhagolygon twf ar gyfer economi’r DU.

Mae'n disgwyl twf o 0.6% ym mhob un o ddau chwarter olaf 2023 o'i gymharu â blwyddyn ynghynt. 

Ond mae'n dweud y bydd twf yn disgyn yn chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf i 0.2%, ac yna i 0.0% yn yr ail chwarter a thu hwnt.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.