Arestio dau ddyn mewn cysylltiad â chwymp coeden Mur Hadrian
Mae dau ddyn yn eu 30au wedi cael eu harestio ar ôl i goeden sycamorwydden fyd-enwog gael ei thorri ger Mur Hadrian fis Medi.
Cyhoeddodd Heddlu Northumbria fod y ddau bellach wedi eu rhyddhau ar fechniaeth.
Cafodd y goeden yn Northumberland, ei thorri dros nos ar 27 Medi, ac mae'r heddlu yn credu fod hynny yn weithred o fandaliaeth.
Y diwrnod canlynol, fe gyhoeddodd yr heddlu fod dyn 60 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad a chafodd ei holi yn y ddalfa.
Cafodd bachgen 16 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol ac ers hynny mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Fore Mercher, fe ddywedodd Heddlu Northumbria bod dau ddyn yn eu 30au wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth a bod eu hymholiadau yn parhau.
Gobaith
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gobeithio bod modd achub y goeden gan fod blaguryn yn y boncyff.
Ar y pryd, dywedodd Rob Ternent, prif arddwr Gardd Alnwick yn Northumberland, y byddai'r goeden yn dechrau tyfu eto ond na fyddai " fyth yr un siâp na chystal â'r goeden wreiddiol ”.
“Roedd tua 300 oed felly bydd yn cymryd amser hir i ddychwelyd i’r maint hwnnw. Mae’n drueni mawr,” meddai.