Newyddion S4C

‘Rhaid cael ffordd osgoi Llandeilo’: Cabinet Sir Gâr yn ysgrifennu at y gweinidog trafnidiaeth

31/10/2023
Llandeilo

Mae aelodau cabinet cyngor Sir Gâr wedi ysgrifennu at y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth yng Nghymru yn galw am ffordd osgoi i Landeilo.

Dywedodd arweinydd y cyngor Darren Price fod yr “amser ar gyfer siarad ar ben a’r amser ar gyfer gweithredu wedi cyrraedd”.

Daw’r penderfyniad i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar ôl i’r cyngor roi sêl bendith i gynnig ym mis Medi i alw eto ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ffordd osgoi Llandeilo.

Bu galwadau am ffordd osgoi ers degawdau, a chwe blynedd yn ôl neilltuwyd £50 miliwn ar gyfer un fel rhan o gytundeb cydweithredu ar lefel genedlaethol rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur.

Mae ansawdd aer yn cael ei effeithio gan loriau sy'n brwydro i basio ei gilydd ar y ffordd gefn gul drwy Landeilo, meddai'r rheini sydd o blaid y cynllun.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi atal pob cynllun i adeiladu ffyrdd newydd wrth iddyn nhw edrych ar ddewisiadau amgen.

Roedd methu â chadw at gytundeb 2016-17 rhwng y ddwy Blaid, yn tanseilio cydweithio trawsbleidiol, meddai cynghorwyr.

“Mae ymddiriedaeth yn gwbl hanfodol mewn unrhyw berthynas,” meddai Darren Price.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “parhau i weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ar opsiynau er mwyn gwella trafnidiaeth yn Llandeilo”.

“Mae hyn yn cynnwys edrych ar y posibilrwydd o ddargyfeirio cerbydau nwyddau trwm o Landeilo.

“Mae’r Athro Andrew Potter yn ein cefnogi gyda’r gwaith hwn.”

Llun gan Richard Youle

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.