
Chwarae pŵl am 24 awr i godi arian ar gyfer Movember
Chwarae pŵl am 24 awr i godi arian ar gyfer Movember
Bydd dyn o Geredigion sydd bellach yn byw yn Awstralia yn codi arian ar gyfer elusen Movember eleni trwy chwarae pŵl am 24 awr.
Mae Gwern Dafis yn wreiddiol o Dalgarreg yng Ngheredigion ond bellach yn byw ym Melbourne, Awstralia.
Bydd yn codi arian ar gyfer elusen Movember, sydd yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl dynion, atal hunanladdiad, canser y prostad a chanser y ceilliau.
Fe fydd y 24 awr yn cael ei dangos ar lif byw fel bod ei ffrindiau a'i deulu yng Nghymru yn gallu ei wylio.
Prif nod Mr Dafis yw codi gymaint o arian ag sy'n bosibl, a bydd rhaid iddo wneud her wahanol pan fydd yn codi swm penodol o arian.
"Fi mynd i fod yn cymryd lan gemau yn erbyn pobl fan hyn fi 'di cwrdd â yn Melbourne," meddai wrth Newyddion S4C.
"Trwy y sialens 'ma fi mynd i fod yn livestreamo hwn i pob un gatre' yng Nghymru ac ym Mhrydain so, bydd yr adeg oriau cynnar y bore fan hyn yn gallu cael 'y'n entertaino i gan pobl gatre'.
"Fi mynd i roi targede i'n hunan yn ystod y 24 awr yma. I gweud, os fyddai'n cyrraedd $250 neu rywbeth bydden i'n neud rhywbeth sili fan hyn a wedyn fi'n credu falle'r gôl mwya' fydd $500 i shafio'n wallt i gyd off.
"So, hwnna yw'r pryd bydd popeth yn mynd yn siriys.
Pam pŵl?
Mae gan Gwern nifer o resymau dros ddewis chwarae pŵl ar gyfer yr her.
Mae ganddo fwrdd pŵl yn ei dŷ ym Melbourne, ond y prif reswm yw ei fod wedi chwarae gyda'i dad a'i ffrindiau gydol ei blentyndod.
"Fi'n joio chwarae pŵl, fi wastod wedi," meddai.
"O amser o'n i'n tyfu lan o'dd dad yn mynd â fi i Tafarn Talgarreg i chwarae cwpl o gemau. Mae'n siwans i gael chat, ma fe'n siawns i gael chat gyda dad yn tyfu fyny, a wedyn yn y pub gyda mêts fi'n tyfu lan a wedyn fan hyn nawr yn Melbourne fi yn ffodus i ffindo tŷ gyda pool table yn y tŷ."

Mae chwarae pŵl gyda'i ffrindiau hefyd yn gyfle i Gwern a'i ffrindiau siarad am eu teimladau.
Mae'n credu fod gwneud rhywbeth fel chwarae pŵl yn hytrach nag eistedd a siarad yn unig, yn ei gwneud hi'n haws i drafod iechyd meddwl.
"Ma' chwarae pŵl wedi bod yn siawns, amser ti'n teimlo'n isel neu teimlo fel bod ti ddim... eitha' unig rili. Ma fe'n siawns i actually siarad gyda mêts ti a bod y barrier 'na ddim yna ti'n dod dros y barrier 'na rili.
"Achos 'yn ni fel dynion ni'n, fi'n gweld, ni ddim yn eistedd lawr a edrych ar ein gilydd, fel arfer ni'n cael sgwrs iawn amdano pethe.
"Ond os 'yn ni'n neud rhywbeth ar yr un pryd mae'n dod yn mwy naturiol. So ma' pŵl 'di fod yn ffordd grêt i fi i cael y chats 'ma gyda'n ffrindie i.
"A gyda 'nhad i 'fyd achos ma hwnna'n rhywbeth tebyg i fel arfer 'sen i gyda'n mêts i, ni byth yn siarad yn iawn gyda'n gilydd os nag oes 'na rwbeth yn ein diddanu ni, so pŵl yw'r peth 'na.
Llysgennad
Nid dyma'r tro cyntaf i Gwern godi arian ar gyfer elusen Movember.
Yn y gorffennol mae wedi tyfu mwstas a chynnal gweithgareddau pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd bod yr elusen yn agos at ei galon a'i bod yn fraint i godi arian ar gyfer yr achos.
'Mae'n rhywbeth fi 'di neud dros cwpl o flynydde felly ma'n rhywbeth sydd yn agos i 'nghalon i.
"Fi'n disgwyl 'mlaen i gallu helpu rhoi fwy o arian tuag at achos mor mor bwysig."