Newyddion S4C

Duolingo 'wir yn gobeithio’ parhau i gefnogi dysgu’r Gymraeg

31/10/2023
Duolingo

Mae Prif Weithredwr yr ap Duolingo yn dweud ei fod ‘wir yn gobeithio’ canfod ffordd o barhau i gefnogi dysgu’r Gymraeg.

Daeth cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf na fyddai cyrsiau rhai ieithoedd ar yr ap, gan gynnwys y Gymraeg, yn cael eu diweddaru bellach o fis Tachwedd ymlaen.

Er y bydd y cwrs yn parhau i fod ar gael am ddim, dywedodd y cwmni eu bod nhw eisiau buddsoddi “adnoddau prin” mewn ieithoedd “gyda galw uchel”, fel Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg.

Fe wnaeth y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles a’r Aelod Seneddol, Alex Davies Jones, gysylltu gyda’r cwmni yn sgil y newyddion, i gynnig cefnogaeth ac i ofyn iddyn nhw ail-ystyried y penderfyniad.

Mewn ymateb gan y cwmni ddydd Llun, fe ddywedodd Luis von Ahn, Prif Weithredwr Duolingo, y bydden nhw'n “rhannu rhagor o fanylion am ein gwaith” gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio canfod ffordd i gefnogi'r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

“Yn sgil y llythyrau clên rydw i wedi ei dderbyn gennych chi a’r Gweinidog Jeremy Miles, rydw i wedi gofyn i aelodau o fy nhîm i estyn allan i’ch swyddfeydd i rannu rhagor o fanylion am ein gwaith er mwyn gweld os oes ffordd i Duolingo barhau i gefnogi Cymraeg 2050.

“Nid ydym wedi cymryd y cam yma gydag unrhyw un o’r cyrsiau eraill sydd ddim bellach yn cael eu diweddaru, ac er nad ydym yn gallu ymrwymo i unrhyw beth ar hyn o bryd, rydw i wir yn gobeithio y gallwn ni ganfod ffordd i barhau i gynnal a thyfu’r trysor, sef yr iaith Gymraeg.”

'Diolch'

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Alex Davies Jones AS: “Diolch Duolingo am yr ymateb. Fel Gweinidog Tech Cysgodol Llafur, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw apiau dysgu. 

“Wrth gwrs dylai'r cyfle i ddysgu Cymraeg fod ar gael i bawb hefyd! Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Jeremy Miles & chydweithwyr Llafur Cymru i dyfu’r Gymraeg.”

Mae dros 650,000 yn defnyddio Duolingo Cymraeg ac mae 2.5 miliwn wedi lawrlwytho y cwrs yn ôl y tîm datblygu.

Yn 2021 cyhoeddwyd y byddai'r cwrs Cymraeg yn dod o dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dywedodd llefarydd ar ran Duolingo: "Nid yw cwrs Cymraeg Duolingo yn mynd i unman - bydd yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i bawb. 

“Rydym yn hynod o falch mai Duolingo yw un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd i bobl ddysgu Cymraeg, ac rydym am barhau i wneud ein rhan tuag at nod Llywodraeth Cymru o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

“O ystyried y llu o gefnogaeth dros yr wythnos ddiwethaf ar gyfer ein cwrs, rydym wedi estyn allan i Lywodraeth Cymru i ddeall sut y gall Duolingo barhau i gefnogi Cymraeg 2050."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.