Newyddion S4C

Beth yw rhai o draddodiadau Noson Calan Gaeaf Cymru?

31/10/2023

Beth yw rhai o draddodiadau Noson Calan Gaeaf Cymru?

Mae Noson Calan Gaeaf yng Nghymru wedi ei chysylltu â phwmpenni, cast neu geiniog a gwisgo gwisgoedd brawychus.

Ond roedd dathlu'r noson yng Nghymru rai cannoedd o flynyddoedd yn ôl fymryn yn wahanol.

Beth felly yw traddodiadau Calan Gaeaf yng Nghymru ac ydyn nhw wedi parhau hyd heddiw?

Ysbrydion

Roedd straeon am ysbrydion a bwystfilod yn crwydro ar hyd y wlad ar Noson Calan Gaeaf yn rhai oedd yn cael eu hadrodd adeg yma'r flwyddyn.

Dywedodd Simon Rodway, Darlithydd y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth bod pobl yn darganfod ffyrdd o gadw'n ddiogel rhag rhai o'r ysbrydion hyn.

"O'dd na syniad felly bod 'na ysbrydion yn cerdded y wlad ar Noson Calan Gaea' a bod 'na rai sydd yn arbennig i Gymru," meddai.

Image
Hwch Ddu Gwta
Delwedd yr Hwch Ddu Gwta 

"Yn enwedig yr Hwch Ddu Gwta, y mochyn di-gynffon.

"Ac wedyn y Ladi Wen heb ddim pen, ac o'dd bobl yn cynnau coelcerthi ac yn y blaen, a bod nhw'n ddigon diogel wrth ymyl y goelcerth.

"Ond wedyn wrth gerdded adre oedd 'na ryw ofan felly bod yr hwch neu rywbeth felly yn eu dala nhw."

Cast neu geiniog

Mae'r traddodiad o chwarae cast neu geiniog erbyn heddiw yn ymwneud â phlant yn cerdded o dŷ i dŷ yn gofyn am felysion.

Cyn i hwn ddod yn arfer yng Nghymru a Phrydain roedd 'na rai yn teithio o gwmpas de Cymru wedi gwisgo dillad arbennig ac yn cerdded o ddrws i ddrws.

"O'dd na rywbeth tebyg i 'trick or treat' 'fyd, yn y de yn arbennig," meddai Mr Rodway.

"A gwrachod oedd yr enw ar y bobl oedd yn crwydro wedi gwisgo dillad arbennig, dynion yn gwisgo dillad merched, er enghraifft.

"Ag oedd na gryn dipyn o yfed a pethau felly."

Image
Gwrachod Nos Galan Gaeaf
Roedd bechgyn yn gwisgo fyny fel merched mewn rhai mannau yn ne Cymru (Llun: Amgueddfa Cymru)

Ychwanegodd Mr Rodway bod y traddodiad o deithio o dŷ i dŷ yn gofyn am bethau yn rhan o nifer o ddigwyddiadau traddodiadol yng Nghymru.

Mae'r rhain yn cynnwys y Calennig lle bydd plant yn teithio i dai gydag anrhegion.

"Ma' rhywun yn meddwl am Calennig amser Dydd Calan a pethau felly.

"Ma' 'na bethau sydd yn digwydd adeg Nos Galan Gaea' mewn rhannau o Gymru gannoedd o flynydde yn ôl.

"Pethau fel trial dyfalu pwy fydde rhywun yn ei briodi ac yn y blaen.

"Ond ma' pethau fel 'ny yn digwydd ar adegau eraill o'r flwyddyn, ma' nhw'n digwydd mewn mannau eraill.

"Felly mae'n debyg bod 'na goelion fel hyn sydd yn gyffredin i wledydd Prydain am wn i, a falle tu hwnt a bod nhw hefyd yn gallu dod yn rhan o ddathliadau y dyddiad penodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.