Chwyddiant prisiau mewn siopau yn gostwng am y pumed mis yn olynol
Mae chwyddiant prisiau mewn siopau wedi gostwng am y pumed mis yn olynol i'r raddfa isaf ers Awst diwethaf, yn ôl ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi.
Roedd y gyfradd 5.2% yn uwch fis Hydref o gymharu ag union flwyddyn yn ôl.
Ond roedd yn is na'r 6.2% a gafodd ei gofnodi ym mis Medi yn ôl y Consortiwm Manwerthu Prydeinig (BRC).
Dyw hynny ddim yn golygu fod prisiau wedi gostwng - dim ond eu bod nhw'n codi yn arafach.
Roedd lefelau chwyddiant ar nwyddau sydd wedi eu mewnforio yn uwch oherwydd gwendid y bunt, tra bod prisiau rhai bwydydd sydd wedi eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig, fel ffrwythau, yn is o gymharu â mis Medi.
Roedd gostyngiad hefyd ym mhrisiau dillad plant a babanod.
'Hanfodol'
Arafodd chwyddiant bwyd hefyd i 8.8%, o gymharu â 9.9% ym mis Medi - dyma'r chweched gostyngiad yn olynol, a'r raddfa isaf ers Gorffennaf diwethaf. Ac arafodd chwyddiant bwyd ffres ymhellach na hynny i 8.3%, o gymharu â 9.6% fis Medi.
Bu gostyngiad yn y raddfa chwyddiant ar gyfer nwyddau sydd ddim yn cynnwys bwyd a hynny i 3.4% o gymharu â 4.4% y mis blaenorol. Dyma'r gyfradd isaf ers Medi 2022.
Dywedodd prif weithredwr y Consortiwm Manwerthu Prydeinig Helen Dickinson: “Er mwyn sicrhau fod chwyddiant yn mynd tua'r cyfeiriad cywir, mae'n hanfodol nad yw Llywodraeth y DU yn llethu busnesau gyda chostau newydd di-angen.
“Heb ymyrraeth ar frys gan y Canghellor, mae masnachwyr yn wynebu biliau trethi busnes sy'n gyfanswm o £470 miliwn o bunnau'r flwyddyn. Yn y pendraw. cwsmeriaid fydd yn gorfod talu'r pris, am y cynnydd hynny yn nhrethi busnes."