Rhybudd melyn am law i siroedd y de-orllewin a'r canolbarth ddydd Sul
29/10/2023
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar draws rhannau o dde orllewin a chanolbarth Cymru.
Fe fydd y rhybudd mewn grym o 12:00 ddydd Sul ac fe fydd yn parhau tan 09:00 fore ddydd Llun.
Gall oedi fod yn debygol ar wasanaethau trên a bws, gyda disgwyl i deithiau gymryd mwy o amser.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd gallai rhai siroedd brofi cawodydd trwm gyda hyd at 50mm o law yn disgyn mewn mannau.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
Castell-nedd Port Talbot
Sir Benfro
Powys
Abertawe
Sir Gaerfyrddin