Newyddion S4C

Arestio cefnogwr Gillingham am watwar ymosodwr Casnewydd Omar Bogle yn hiliol

29/10/2023
Omar Bogle

Mae'r heddlu wedi arestio cefnogwr Gillingham am watwar ymosodwr Casnewydd, Omar Bogle, yn hiliol yn ystod y gêm rhwng y ddau glwb brynhawn dydd Sadwrn.

Mewn datganiad yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Clwb Pêl-droed Casnewydd: "Mae Casnewydd yn hynod siomedig gyda’r ystum hiliol a wnaed i’r ymosodwr Omar Bogle gan un o gefnogwyr Gillingham yn ystod gêm Adran Dau heddiw yn Stadiwm Priestfield.

"Mae Sir Casnewydd yn ffieiddio unrhyw ffurf o hiliaeth, rhagfarn neu wahaniaethu ac mae ganddom bolisi dim goddefgarwch tuag at achosion o'r fath.

"Mae'r EFL wedi cadarnhau bod yr unigolyn wedi cael ei adnabod a'i arestio."

Dywedodd Gillingham mewn datganiad fod yr unigolyn dan sylw wedi ei wahardd am oes o'r clwb a bod yr heddlu wedi ei arestio ac yn ymchwilio.

Mae Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r clwb, Joe Comper, wedi rhyddhau datganiad am y digwyddiad, a ddigwyddodd yn ystod yr hanner cyntaf  ar gae Priestfield ddydd Sadwrn.

“Rwy’n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gweld y clipiau ar gyfryngau cymdeithasol ac roeddwn i eisiau ailddatgan pa gamau rydyn ni wedi’u cymryd a’n safiad ar y math hwn o ymddygiad.

“Rydyn ni wedi ffieiddio’n llwyr, ac rydyn ni’n rhwystredig os ydw i’n onest.

“Rydyn ni wedi delio ag e o fewn 30 eiliad, cafodd y person dan sylw ei gymryd a’i arestio gan yr Heddlu.

“Mae datganiadau wedi’u cymryd drwy gydol y gêm ac mewn gwirionedd rydym wedi treulio llawer o amser yn delio â’r digwyddiad hwnnw drwy gydol y gêm i wneud yn siŵr bod y person yn cael ei drin, a’i drin yn briodol, a fydd nawr yn cael ei drin gan yr Heddlu.

“Dw i’n meddwl ei fod yn hollol glir – mae pawb wedi gweld y fideo ac mae pawb yn gallu gweld beth sydd wedi digwydd. Ond mae’n bwysig ein bod ni, fel clwb, yn dangos ein bod yn ei gymryd o ddifrif. Fe wnaethom ddelio ag ef yn gyflym iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.