Gwrthdrawiad difrifol yn cau'r A55 i un cyfeiriad yng Nghonwy
Mae gwrthdrawiad difrifol wedi cau'r A55 i un cyfeiriad yng Nghonwy fore dydd Sadwrn.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru mae'r ffordd ar gau i gyfeiriad y dwyrain yn dilyn y gwrthdrawiad ar benrhyn Penmaenmawr ger Dwygyfylchi.
Mae disgwyl y bydd y ffordd ar gau i'r dwyrain am gryn amser medd yr heddlu, ac mae cerbydau'n cael eu cyfeirio ar yr A5 ger cyffordd 11.
Ganol dydd roedd adroddiadau bod oedi o hyd at bron i awr yn debygol yn yr ardal.
Inline Tweet: https://twitter.com/TraffigCymruG/status/1718162451500277874
Yn y cyfamser mae rhybudd y gall niwl effeithio ar deithwyr ar hyd yr A55 yn y gogledd ddwyrain.
Dywed Traffig Cymru fod amodau gyrru'n wael rhwng ardal Rhuallt a'r Fflint.
Inline Tweet: https://twitter.com/NWPolice/status/1718167410581045257