Lluoedd Israel yn dwysau eu hymgyrch filwrol yn Gaza
Mae lluoedd Israel wedi cadarnhau eu bod yn ehangu eu hymosodiad ar dir yn Gaza ar ôl dyddiau o gyrchoedd bomio o'r awyr.
Mae Israel wedi rhybuddio Palestiniad sy'n dal i fod yng ngogledd Gaza i ffoi tua'r de ar frys.
Roedd rhagor o fomio dwys ar Gaza dros nos, gydag adroddiadau bod y rhain yn drymach na'r nosweithiau blaenorol.
Dywedodd lluoedd arfog Israel, yr IDF, ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn bod awyrennau Israel wedi targedu 'tua 100' o leoliadau tanddaearol yng ngogledd Llain Gaza.
Mae holl gyswllt rhyngrwyd a ffôn wedi dod i ben yn Gaza sy’n golygu nad oes modd cysylltu â neb yno.
Yn ôl adroddiadau gan Hamas mae gwrthdaro wedi digwydd yng ngogledd Gaza wrth i rai o filwyr a thanciau Israel groesi’r ffin i mewn i’r diriogaeth.
Mae Israel yn dweud eu bod wedi lladd pennaeth ymosodiad paragleidwyr Hamas yn ystod ymosodiad y grŵp ar Israel ar 7 Hydref.
Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi galw am "gadoediad dyngarol ar unwaith."
Mae Israel wedi bod yn bomio Gaza ers ymosodiadau Hamas ar y wlad ar 7 Hydref.
Bu farw 1,400 o bobl o ganlyniad i’r ymosodiadau yno gan Hamas ac mae dros 200 o Israeliaid yn dal i gael eu cadw'n wystlon yn Gaza.
Hyd yn hyn, mae pedwar gwystl wedi eu rhyddhau.
Wrthi Israel barhau i fomio Gaza, mae'r weinyddiaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas yno yn dweud bod bron i 7,000 o bobl wedi eu lladd o ganlyniad ers 7 Hydref.