Newyddion S4C

Codi arian i deulu mam a merch o Gaerffili fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

26/10/2023
Cheryl Woods a Sarah Smith

Mae ymgyrch i godi arian i helpu teulu mam i chwech fu farw mewn damwain ar yr M4. 

Roedd gan Sarha Smith a fu farw yn y gwrthdrawiad chwech o ferched rhwng 22 a thair oed.

Cyhoeddodd Heddlu Wiltshire ei bod hi a'i mam Cheryl Woods, 61 oed, wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 yn Lloegr ddydd Gwener yn ystod Storm Babet. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig ar ôl 09:00 ger Chippenham wedi i lori wyro ar ei hochr a glanio ar gar y ddwy.

Mae eu teulu wedi dechrau ymgyrch i godi arian er mwyn ariannu costau'r angladd ac i ddarparu cefnogaeth ar frys i ferched tair, 12, 14, 19, 21 a 22 oed Sarha Smith.

Dywedodd y datganiad fod "colli Sarha Smith a Cheryl Woods mor sydyn wedi gosod baich mawr ar eu teulu, yn emosiynol ac yn ariannol".

"Mae trefnu angladd a delio gyda'r costau sy'n gysylltiedig â hynny yn faich ychwanegol na ddylai unrhyw deulu ei wynebu mewn cyfnod mor dorcalonnus," medden nhw.

"Wrth i'r merched fynd drwy'r cyfnod yma o alaru a cholled, byddant angen cefnogaeth ar gyfer eu hanghenion brys, sef cartref, addysg a chostau byw dyddiol."

'Gadael gwagle'

Mewn teyrnged ddydd Gwener, dywedodd y teulu: “Roedd Cheryl Woods yn fam gariadus, mamgu, chwaer a ffrind annwyl. Roedd yn rhoi blaenoriaeth gyson i les ei theulu dros ei lles ei hun, ac ymfalchïai yn ei threftadaeth Gymreig tra’n meithrin cariad dwfn at natur.

“Roedd Sarah, yn dilyn ôl traed ei mam, yn anhunanol. 

“Roedd hi nid yn unig yn fam, mamgu, chwaer, modryb a ffrind, ond mae ei habsenoldeb yn gadael gwagle i'r rhai oedd yn dibynnu arni. 

“Bydd ei hetifeddiaeth yn cael ei weld trwy ei chwe merch, fydd yn ei chadw yn eu cof am byth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.