Newyddion S4C

Rhent yn llyncu 'bron y cwbl' o fenthyciadau myfyrwyr

26/10/2023
Prifysgol

Mae talu rhent yn llyncu bron y cwbl o Fenthyciad Cynhaliaeth myfyrwyr sy'n mynychu prifysgol yn ôl adroddiad newydd oedd yn cynnwys Prifysgol Caerdydd.

Yn ôl elusen tai myfyrwyr Unipol, fe wnaeth rhent gynyddu bron i £1,000 ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol o'i gymharu â llynedd.

Cafodd yr ymchwil ei wneud ar sail dadansoddiad o 10 dinas prifysgol allweddol ar draws y DU, gan gynnwys Caerdydd.

Ar gyfartaledd, mae rhent blynyddol i fyfyrwyr yng Nghaerdydd ychydig dros £6,600.

Bournemouth, Bryste, Exeter, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Nottingham, Portsmouth a Sheffield oedd y dinasoedd eraill, gyda Llundain a Chaeredin wedi eu heithrio yn fwriadol oherwydd costau uwch yn y dinasoedd hyn.

Dywed yr adroddiad fod myfyrwyr yn cael eu gorfodi i rannu ystafelloedd neu osgoi mynd i'r brifysgol yn gyfan gwbl yn sgil y costau. 

Mae hefyd yn rhybuddio na fydd gan fyfyrwyr sydd ddim yn gallu dibynnu ar gefnogaeth teulu neu sydd heb waith rhan-amser "unrhyw arian er mwyn byw wedi iddyn nhw dalu eu rhent".

'Dim byd tebyg'

Dywedodd dirprwy brif weithredwr Unipol Victoria Tolmie-Loverseed y gallai "degawdau o gynnydd wrth ehangu'r nifer sy'n mynd ymlaen i addysg uwch" gael ei danseilio heb fynd i'r afael â'r argyfwng llety myfyrwyr.

Roedd nifer y bobl ifanc 18 oed o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn y DU a ymgeisiodd i brifysgolion yr uchaf ar gofnod eleni yn ôl elusen gwasanaethau addysg Ucas.

Dywedodd cyfarwyddwr melin drafod y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (Hepi) Nick Hillman: "Ar draws y rhan fwyaf o'r DU, nid yw lefelau swyddogol cefnogaeth cynhaliaeth yn unrhyw beth tebyg i gostau byw gwirioneddol y mwyafrif o fyfyrwyr."

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru am ymateb. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.