Trafod cais gan bobl leol i atal codi tai mewn cae ar gyrion Aberystwyth
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn trafod cais ddydd Iau i droi cae ar gyrion Aberystwyth yn llecyn glas cymunedol er mwyn atal cynlluniau i godi tai newydd yno.
Mae rhai pobl leol wedi bod yn ymgyrchu i atal cynlluniau ar y cyd rhwng y cyngor, a chwmni Wales and West Housing i godi dros 70 o dai ar y safle Cae Erw Goch, Waunfawr.
Mae'r grŵp o drigolion lleol yn gobeithio dynodi cae Erw Goch tu ôl i Hafan y Waun yn dir comin neu faes pentref, gyda'r cais wedi ei gyflwyno yn enw Sian Richards o Lanbadarn Fawr.
Mae grŵp Cyfeillion Erw Goch , sydd wedi brwydro gyda’r cyngor ers blynyddoedd dros y maes, wedi dweud eu bod yn “credu’n gryf" bod dadl swyddogion y cyngor o "anghydnawsedd statudol" yn cael ei ddefnyddio fel "arf jargon cyfreithiol gyda’r nod o ddallu’r ymgeisydd a chynghorwyr sir".
“Rydym yn teimlo fel grŵp y dylid gwrthod yr argymhelliad, a sicrhau bod ein cais yn cael gwrandawiad teg a chyfiawn mewn ymchwiliad cyhoeddus," medden nhw.
'Pwysau tebygolrwydd'
Mae'r cyngor sy'n berchen ar y tir wedi cyflogi cyfreithwyr allanol i ystyried y cais, gan honni bod “anghydnawsedd statudol” rhwng y defnydd posib o'r tir fel maes pentref a'r ffaith ei fod wedi ei ddynodi fel tir i'w ddatblygu.
"Un o wrthwynebiadau’r Cyngor i’r cais, fel tirfeddiannwr, yw nad yw’r tir yn gallu bodloni’r profion yn adran 15(2) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 oherwydd cafodd ei gaffael a’i ddal gan yr awdurdod lleol at ddibenion addysg, ac mae hyn yn anghydnaws â’i gofrestru fel maes pentref neu dref," meddai adroddiad ar y cais gan swyddogion y cyngor.
Mae adroddiad y cyfreithiwr yn argymell gwrthod y cais ar y sail fod "yn ôl pwysau tebygolrwydd, cafodd y tir ei gaffael at ddibenion addysgol".
Cyfeiriodd at achos llys oedd yn awgrymu nad oedd modd defnyddio tir at ddiben addysgol ar gyfer maes pentref.
Nid yw Cyngor Ceredigion wedi cynnig sylw ar y mater.