Apêl am dystion yn dilyn gwrthdrawiad ger Castell Newydd Emlyn
25/10/2023
Mae heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A484 rhwng Castell Newydd Emlyn a Phentrecagal.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 22:48 ar nos Fawrth 24 Hydref.
Roedd y digwyddiad yn ymwneud â Honda Civic du.
Cafodd gyrrwr y cerbyd ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Dylai unrhyw lygad-dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu trwy ddyfynnu'r cyferirnod DPP-20231024-437.