Newyddion S4C

'Fydd 'na ddim cymuned ar ôl': Gwrthwynebiad trigolion lleol i gau ysgol gynradd yng Nghwm Cynon

23/10/2023

'Fydd 'na ddim cymuned ar ôl': Gwrthwynebiad trigolion lleol i gau ysgol gynradd yng Nghwm Cynon

“Mae’n galon y gymuned, dyna’r broblem. Os ‘dych chi’n cau’r ysgol bydd dim byd ar ôl yn y gymuned.” 

Dyma eiriau rhiant sy’n rhan o ymgyrch i wrthwynebu cynlluniau i gau ysgol gynradd yng Nghwm Cynon. 

Cafodd cynlluniau i gau Ysgol Gynradd Rhigos eu cyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf ym mis Medi oherwydd gostyngiad disgwyliedig yn nifer y disgyblion. 

Ond mae’r cynlluniau wedi peri gofid i’r gymuned leol sy’n benderfynol o weld yr ysgol yn parhau ar agor er lles dyfodol eu plant. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Gemma Williams fod yr ysgol yn “greiddiol” i’r gymuned. 

“Os bydd nhw’n cau’r ysgol, bydd dim byd wedyn i fyw yn Rhigos,” meddai.

Image
Cau ysgol Rhigos

Mae’r penderfyniad wedi cythruddo’r gymuned, ac mae sawl un yn pryderu dros ddyfodol y pentre’ petai’r cynlluniau cael eu cymeradwyo.

Dywedodd Tom Williams, sydd hefyd yn rhiant i ddisgybl yr ysgol, y byddai’r cynlluniau yn arwain at blant Rhigos yn “colli allan” ar gyfleoedd eraill. 

“Fydd ‘na ddim cymuned ar ôl os maen nhw’n cau’r ysgol ‘chos fydd o’n stopio teuluoedd ifanc symud mewn i’r pentref a fydd yn cael effaith mawr lle bydd ‘na ddim plant a ddim ysgol.

“Maen nhw’n meddwl gyrru bysus yn ôl ac ymlaen i’r ysgol sy’n meddwl bod y plant yn colli allan efo pethau fel clybiau ar ôl ysgol a pethau; os ‘di rhieni ddim yn dreifio mae’r plant yn colli allan ‘chos ‘dyn nhw ddim yn cael lifft adre’ na dim byd.” 

Image
Cau Ysgol Rhigos

‘Dyfodol llwm i gymunedau de Cymru’

Fel rhan o’r cynlluniau bydd plant Ysgol Gynradd Rhigos yn cael cynnig symud i Ysgol Gynradd Hirwaun, neu Ysgol Gynradd Penderyn – sef ysgol cyfrwng Cymraeg. 

Ond ni fydd cau’r ysgol yn annog mwy o siaradwyr y Gymraeg, a hynny’n rhannol oherwydd yr effaith negyddol ar y gymuned, meddai Beth Winter, sef Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon. 

“Os mae’r ysgol ‘ma yn cau bydd yr effaith ar y gymuned, yn fy marn i, ddim yn mynd i ‘neud unrhyw beth dda i’r iaith Gymraeg o gwbl,” meddai. 

Mae’n rhybuddio bod y cynlluniau i gau’r ysgol yn dod fel rhan o “doriadau ehangach” sydd rhaid eu hatal. 

“Rhaid i ni eistedd lawr, fel cymuned, fel cyngor, a gweld sut allwn ni atal ac ymladd yn ôl yn erbyn y toriadau sydd yn digwydd.  

“Neu mae dyfodol cymunedau ‘ma yn de Cymru yn ddyfodol llwm os nad ydyn ni’n ymladd yn ôl.” 

Image
Beth Winter

‘Diwedd ei oes’

Prif resymau Cyngor Rhondda Cynon Taf dros y cynllun i gau’r ysgol yw ynghylch amcan pum mlynedd sy’n darogan y byddai nifer y disgyblion yr ysgol yn parhau i leihau, yn ogystal â rhestr o waith cynnal a chadw ar adeilad yr ysgol a fydd yn costio oddeutu £184, 790. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’r Cyngor yn cydnabod bod Ysgol Gynradd Rhigos yn rhan werthfawr o’r gymuned.

“Mae’r penderfyniad i gynnal yr ymgynghoriad cychwynnol hwn yn seiliedig ar ostyngiad yn niferoedd y disgyblion, sy’n cynnwys 51 o ddisgyblion presennol, gyda chwech o rheiny yn byw y tu allan i’r dalgylch.

“Mae adeilad yr ysgol hefyd wedi cyrraedd diwedd ei oes a bydd angen buddsoddiad sylweddol i’w cynnal. 

“Ar ôl i’r broses ymgynghori ddod i ben, bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried yr holl faterion a godwyd gan y gymuned, yr ysgol, rhieni/gofalwyr a disgyblion.” 

Bydd cyfnod yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 17 Hydref 2023.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.