Ffarmwr mewn tractor wedi achub babi, cŵn a pherson yn ei 80au o lifogydd ger Wrecsam
Llwyddodd ffarmwr mewn tractor i achub babi o lifogydd mewn pentref ger Wrecsam.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod dau oedolyn, un babi, un person yn ei 80au a dau gi wedi eu hachub yn Nhrefalun i’r de-orllewin i’r ddinas.
Roedd dŵr wedi codi o Afon Alun ac wedi lledu ar draws y tiroedd fflat o amgylch, medden nhw.
Roedd swyddogion y gwasanaeth tân ac achub yn bresennol, ond fe gafodd y bobl eu hachub gan ffermwr lleol oedd wedi nôl yr unigolion yn ei dractor.
Mae un rhybudd llifogydd difrifol yn dal mewn grym yn y gogledd ddwyrain wedi Storm Babet.
Mae’n effeithio ar gymunedau ar hyd yr Afon Ddyfrdwy gan gynnwys Erbistog, Plas Devon, Almere a Dolau Trefalun.
Fore dydd Sul roedd saith rhybudd arall i bobol fod yn wyliadwrus gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn yr ardal.
'Ar gau'
Daw wedi i Gyngor Powys gyhoeddi rhybudd "perygl i fywyd" yng ngogledd y sir ddydd Sadwrn.
Roedden nhw’n dweud y dylai pobl aros mewn lle saff ond bod yn barod i ffoi eu cartrefi pe bai angen.
"Peidiwch ag anwybyddu arwyddion yn dweud fod ffyrdd ar gau ac arwyddion llifogydd a osodwyd allan er mwyn eich diogelwch,” medden nhw.
Mae tri o bobol wedi marw ar draws y DU o ganlyniad i Storm Babet.
Cyhoeddwyd bod dyn yn ei 60au wedi marw dros y ffin yn Swydd Amwythig ar ôl mynd i’r dŵr ger Cleobury Mortimer fore Gwener.
Bu farw dynes 57 oed ddydd Iau ar ôl iddi gael ei llusgo i afon Water of Lee, yn Glen Esk, yn Swydd Angus.
Ddydd Gwener hefyd cyhoeddwyd bod dyn 56 oed wedi marw yn yr un ardal ar ôl i goeden syrthio ar ei fan.