Lluoedd arfog Israel yn paratoi i 'symud i'r cam nesaf' yn Gaza
Mae Israel wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu dwysau’r ymosodiadau ar Hamas yn Llain Gaza ar ôl rhagor o fomio dros nos.
Mae tanciau a milwyr Israel wedi ymgasglu ar y ffin â Gaza cyn ymosodiad ar y tir.
Nid yw’n amlwg eto pryd y bydd hynny’n digwydd.
Maen nhw wedi rhybuddio Palesteiniaid sy'n dal i fod yng ngogledd y diriogaeth i ffoi tua'r de.
Dywedodd llefarydd ar ran lluoedd arfog Israel, Daniel Hangari, y byddai hynny yn caniatáu i Israel "leihau'r risg” yng nghamau nesaf y rhyfel.
“Fe fyddwn ni’n symud i’r cam nesaf o dan yr amodau gorau ar gyfer yr IDF,” meddai.
Dywedodd Hamas fod 55 o bobl yn Gaza wedi eu lladd dros nos.
Mae Israel yn dweud fod 212 o’u dinasyddion yn cael eu dal yn wystlon gan Hamas.
Cymorth
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn gobeithio y bydd mwy o gymorth dyngarol yn cyrraedd Gaza heddiw.
Daw hynny ar ôl i gyflenwadau hanfodol gyrraedd pobl am y tro cyntaf ddoe ers i’r ymladd gychwyn.
Mae’n bythefnos ers i Hamas lansio ymosodiad ar Israel gan ladd mwy na 1,400 o bobol.
Mae’r awdurdodau Palesteinaidd yn dweud bod mwy na 4,300 wedi cael eu lladd yn Gaza ers hynny.
Ddydd Sadwrn fe brotestiodd tua 1,000 o bobol o flaen y Senedd yng Nghaerdydd gan alw am ddiwedd ar y rhyfel.