Gwrthod cynlluniau i gau rhai o orsafoedd tân y gogledd
Gwrthod cynlluniau i gau rhai o orsafoedd tân y gogledd
Mae cynlluniau i gau rhai o orsafoedd tân Gogledd Cymru wedi cael eu gwrthod gan yr Awdurdod Tân ac Achub.
Mae cynlluniau i leihau nifer y diffoddwyr tân yn ogystal â chael gwared ag un injan dân yng ngorsaf dân Wrecsam hefyd wedi cael eu gwrthod.
Daw hyn wedi ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gyflwyno i aelodau'r awdurdod yn gynharach ddydd Llun ar fesurau i arbed arian i helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymateb i alwadau yn gynt mewn ardaloedd gwledig.
Fe wnaeth 1,776 o bobl gwblhau holiadur yr ymgynghoriad am y ddarpariaeth gofal brys yn y dyfodol.
Roedd un o'r opsiynau yn cynnwys cael gwared â shifftiau nos yng ngorsaf dân y Rhyl a Glannau Dyfrdwy, gan adael dim ond staff ar-alwad i ymateb i alwadau 999.
Roedd Opsiwn 2 yn ystyried cael gwared â thair injan dân yn Wrecsam a diswyddo 22 o ddiffoddwyr tân.
Roedd y trydydd opsiwn yn gyfuniad o'r ddau opsiwn cyntaf yn ogystal â chau gorsafoedd tân Abersoch, Biwmares, Cerrigydrudion, Conwy a Llanberis, a fyddai'n golygu y byddai 36 o ddiffoddwyr tân llawn amser, a 38 o rai ar alwad yn colli eu swyddi.
Yn dilyn y cyfarfod ddydd Llun, dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Dylan Rees: "Yn sgil y farn yn yr ymgynghoriad, fe wnaeth aelodau gytuno y dylai'r ffocws wrth symud ymlaen fod ar ddatblygu Opsiwn 1 sef yr unig opsiwn sydd ddim yn cynnwys lleihau swyddi diffoddwyr tân."
'Rhyddhad enfawr'
Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru Becca Martin, a gychwynnodd y ddeiseb yn erbyn y cynlluniau yn Wrecsam, ei bod hi wrth ei bodd gyda'r penderfyniad i wrthod y mesurau "mwyaf eithafol".
"Roedd pobl wedi dychryn wrth feddwl am golli’r gwasanaeth hanfodol yma, yn enwedig wrth ystyried fod gorsaf dân Wrecsam yn derbyn 50% o'r galwadau ar draws y gogledd," meddai.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd gwleidyddion Plaid Cymru Liz Saville Roberts AS, Hywel Williams AS, Siân Gwenllïan AS a Mabon ap Gwynfor AS y byddai'r newyddion yn "rhyddhad enfawr" ar gyfer cymunedau Llanberis ac Abersoch.
Fe wnaeth Undeb y Frigâd Dân (FBU) groesawu cael gwared â "dau o'r tri opsiwn" ond dywedodd ei fod yn "parhau i wynebu lleihad sylweddol yn y ddarpariaeth o ofal tân yn y Rhyl a Glannau Dyfrdwy.
Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ar 18 Rhagfyr pan fydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn gwneud ei benderfyniad terfynol.