Galw am dystysgrifau i deuluoedd sy'n colli babi cyn 24 wythnos
Galw am dystysgrifau i deuluoedd sy'n colli babi cyn 24 wythnos
Mae galwadau i sicrhau bod tystysgrifau'n cael eu rhoi i deuluoedd yng Nghymru sy'n colli babi cyn 24 wythnos.
Mae Lloegr wedi eu cyflwyno eisoes ym mis Gorffennaf 2022, ond yng Nghymru, dim ond teuluoedd sy'n colli babi ar ôl 24 wythnos sy'n gallu cael tystysgrif.
Er y galwadau cyson gan ymgyrchwyr dros y flwyddyn ddiwethaf i’w cyflwyno, tydi’r tystysgrifau ddim ar gael yng Nghymru eto, ond mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gwneud hynny'r flwyddyn nesa.
Mae Carys McKenzie, 37 oed, sydd wedi colli tri babi yn y groth mewn pedair mlynedd yn siomedig nad oes ganddi gofnod swyddogol i gydnabod eu bodolaeth.'
“Mae cael tystysgrif yn rwbath bach sy’n mynd i neud gwahaniaeth mawr.
“Dio’m yn mynd i greu problem mawr i Lywodraeth Cymru, ma’r model yn bodoli yn barod yn Lloegr felly pam ddim? Dio ddim yn neud dim harm i neb.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw’n "gweithio gyda swyddogion yn Lloegr i weld a oes modd cyflwyno'r broses o gyflwyno tystysgrif ar draws Cymru."
'Profiad unig'
Un arall sy'n galw am y newid hwnnw ydy Rhiannon Heledd Williams o Gaeathro, gollodd fabi dair blynedd yn ôl.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Pan wnaethon ni golli babi yn y groth pan o'n i 'di cario 17 wythnos ym mis Mehefin 2020 beth oedd yn lot o gysur i mi oedd cyfrol o'r enw Brink of Being gan seicotherapydd oedd wedi delio efo merched oedd wedi colli babi yn y groth.
"Dwi'n meddwl oherwydd y pandemig hefyd roedd o'n brofiad unig ac ynysig iawn, methu gweld neb wyneb yn wyneb, ffrindia a theulu ac yn y blaen, ac yn darllen o'n i'n teimlo mod i'n rhan o ryw gymuned, rhywbeth alla i wneud yn dawel ar fy mhen fy hun.
"Ond yr unig beth oedd yn fy nharo fi oedd bod 'na ddim byd felly drwy gyfrwng y Gymraeg a dod i wybod wedyn am y Blog Cylchoedd a meddwl mae'n rhaid bod 'na bobol isio siarad am hyn."
Yn ôl Rhiannon mi ddylai fod yn bosib i rieni sydd wedi colli babi yn ystod cyfnod y beichiogrwydd gael tystysgrif i gofnodi hynny.
“Mae 'na newid i'r gyfraith yn Lloegr fod 'na fodd cael tystysgrif i fabis sy'n cael eu geni cyn 24 wythnos a dwi'n meddwl bod hynny'n bwysig, oherwydd y nheimlad i oedd dwi di rhoi genedigaeth, a does 'na ddim cofnod o gwbwl o'r babi bach yma."
Mae Carys McKenzie, o'r un farn.
"Dwi'n meddwl ella mae 'na natur Cymreig o fod ella 'chydig bach yn fwy cyfrinachol neu beidio â gwneud ffys, a dwi'n teimlo ella 'dan ni yn gwneud camau bach tuag at fod yn fwy agored, ond falla 'dan ni ddim cystal â Lloegr."
Mi gollodd Elen Hughes fabi, Daniel, ar ôl 37 wythnos, ac oherwydd bod ei babi wedi cyrraedd yr oedran hwnnw, fe gafodd dystysgrif.
"Oedd o'n bwysig ofnadwy, tystysgrif marwenedigaeth, achos bod o di'i eni, felly mi oedd hynny'n bwysig ofnadwy i ni, y gydnabyddiaeth yna ydy o, dan ni di gario fo, mae o'n bodoli a bod hynny'n cael ei gydnabod yn rhywle."
Wrth ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bydd pob teulu sy’n colli babanod mewn unedau mamolaeth yn cael cymorth bydwragedd, a blwch o atgofion am y babi sy'n cynnwys tystysgrif geni.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn cydweithio â swyddogion yn Lloegr i weld a oes modd cyflwyno tystysgrifau ar draws Gymru i gydnabod colli babi.
Dros gyfnod o dair blynedd fe fydd mudiadau gwirfoddol ac elusennol ym maes profedigaeth yn rhannu grant o dair miliwn o bunnau.
Ar ben hynny mae'r byrddau iechyd yn cael £420,000 dros gyfnod o ddwy flynedd i gynorthwyo'r gwasanaeth o gefnogi pobol mewn profedigaeth.
Fe ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gobeithio cyflwyno’r tystysgrifau y flwyddyn nesa, ond does dim amserlen bendant gan fod y gwaith paratoi yn parhau.
I'r tair merch fu'n siarad â Newyddion S4C, mae 'na golled na ddiflannith fyth.
"On i'n teimlo weithia oedd dipyn o bobol yn deud ellwch chi drio eto...ond mae'n gallu bod yn rhywbeth reit annoeth i ddeud," meddai Rhiannon.
"Dydy o ddim fel colli un bys a dal y nesa.”