O leiaf 21 wedi marw ar ôl i fws blymio oddi ar drosffordd ger Fenis
O leiaf 21 wedi marw ar ôl i fws blymio oddi ar drosffordd ger Fenis
Mae o leiaf 21 o bobl, dau o blant yn eu plith, wedi marw ar ôl i fws blymio oddi ar drosffordd ger Fenis a mynd ar dân.
Torrodd y bws trwy rwystr a phlymio ger traciau rheilffordd yn ardal Mestre.
Y gred yw bod y bws yn cludo twristiaid rhwng Fenis a maes gwersylla yn ardal Marghera.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 19:45 amser lleol nos Fawrth (17:45 GMT).
Mae rhai adroddiadau yn dweud bod y bws yn cael ei bweru gan nwy methan a'i fod wedi disgyn ar linellau pŵer a mynd ar dân.
Dywedodd Prif Weinidog yr Eidal, Giorgia Meloni, ei bod yn cadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf.
"Mae ein meddyliau gyda'r dioddefwyr a'u teuluoedd a ffrindiau," meddai.
Dywedodd Maer Fenis, Luigi Brugnaro, bod “trasiedi anferth” wedi digwydd.
“Mae'n olygfa apocalyptaidd, does dim geiriau,” meddai ar gyfryngau cymdeithasol.
Llun: Wochit