Newyddion S4C

Enwi adeilad prifysgol ar ôl y gwyddonydd Gwendolen Rees

Gwendoline Rees

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ail-enwi un o’i phrif adeiladau academaidd i anrhydeddu’r Athro Gwendolen Rees.

Hi oedd y Gymraes gyntaf i gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS).

Roedd yn sŵolegydd o fri ac yn arloesydd ym maes parasitoleg yn Aberystwyth, gan gyhoeddi 68 o bapurau academaidd gyda’r olaf ohonynt yn ymddangos pan oedd hi’n 82 oed.

Ymddangosodd hefyd yng nghylchgrawn British Vogue ym 1975 mewn dathliad o fenywod dylanwadol y cyfnod.

Mewn seremoni swyddogol gyda pherthnasau’r diweddar Athro Rees, fe gafodd yr enw ei ddadorchuddio ar blac ar adeilad Adran Gwyddorau Bywyd (DLS) a sefydlwyd yn 2022.

Talwyd teyrnged i’w rhagflaenydd gan Jo Hamilton, Athro mewn Parasitoleg yn yr Adran Gwyddorau Bywyd.

“Mae’n fraint o fod wedi cael y cyfle i rannu peth hanes o waith ac addysgu arloesol Gwen heddiw,” meddai.

“Efallai nad yw Gwen gyda ni mwyach, ond rydym yn dal i elwa ar ei gwaddol cyfoethog a defnyddio rhai o’i sleidiau cywrain o barasitiaid wrth ddysgu myfyrwyr heddiw.

“Mae’r maes yn parhau yn un o’n cryfderau ymchwil craidd, ac mae gan nifer o’n hacademyddion rolau arwain mewn cymdeithasau parasitoleg rhyngwladol.

“Mae ailenwi’r adeilad hwn nid yn unig yn anrhydeddu un o academyddion mwyaf blaenllaw Cymru, mae hefyd yn nodi carreg filltir arwyddocaol ym mlwyddyn weithredol gyntaf yr Adran Gwyddorau Bywyd.

“Felly bydd gwaddol yr Athro Rees yn parhau i ysbrydoli myfyrwyr trwy ein dysgu a thrwy gyflawni ymchwil arloesol sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i Gymru a’r byd ehangach.

‘Gwaddol’

Dadorchuddiwyd y plac yn y seremoni gan ddau o nithoedd yr Athro Rees ynghyd â staff hŷn o Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ei bod hi’n “fenyw ryfeddol a wnaeth gyfraniad rhyngwladol i’w maes ymchwil”.

“Diolch i’w gwaddol hirhoedlog hi, mae Aberystwyth yn parhau hyd heddiw yn ganolfan sy’n arwain y byd ym maes astudio parasitoleg,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.