Newyddion S4C

Ymgyrch gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i fynd i'r afael â thrais a bygythiadau

23/09/2023
Cerdyn coach

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud eu bod nhw'n bwriadu cynnal wythnos o ymgyrchu er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad treisgar yn ystod gemau pêl-droed.

Daw wedi i'w hymchwil ddangos bod 20% o'r cardiau melyn a choch a rhoddwyd yn ystod gemau pêl-droed yng Nghymru dros y tymor diwethaf wedi deillio o "digwyddiadau y gellir bod wedi eu hosgoi”.

Roedd yr rheini yn cynnwys ymddygiad treisgar, iaith sarhaus a bygythiad corfforol, ac wedi arwain at glybiau yn gorfod talu miloedd o bunnoedd.

Yn ystod tymor pêl-droed 2022/23 cafwyd bron i 6,500 o gardiau coch a melyn yng ngemau’r wyth cynghrair uchaf yng Nghymru. 

Roedd oddeutu 20% o rheiny ynghlwm â digwyddiadau y gellir wedi eu hosgoi, gan gynnwys ymddygiad treisgar, iaith sarhaus a bygythiad corfforol. 

Roedd sawl un o’r digwyddiadau yma wedi eu hanelu at chwaraewyr eraill, swyddogion y gêm, neu gefnogwyr. 

Mae’r clybiau bellach wedi wynebu tâl ar y cyd o dros £13,700, a hynny’n cynrychioli ffi disgyblu. 

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru bellach am gynnal wythnos o ymgyrchu er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad treisgar yn ystod gemau pêl-droed, gan annog chwaraewyr i gofio’r pwysigrwydd o barchu ei gilydd. 

‘Parch’

Fe fydd wythnos Chwarae Deg yn annog chwaraewyr i gadw at reolau’r gêm gan geisio lleihau’r lefel o drais a welwyd yn ystod gemau. 

Dywedodd Pennaeth Disgyblaeth CBD Margaret Barnett: “Mae wythnos ymgyrch Chwarae Teg Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn bwysig i annog y neges Chwarae Teg ymhellach ac i atgoffa pawb sydd yn rhan o bêl-droed, boed yn chwaraewyr, swyddogion gêm, hyfforddwyr neu gefnogwyr, o’r pwysigrwydd o fod yn barchus at ein gilydd.”

Fel rhan o’r ymgyrch, fe fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwobrwyo’r clybiau sy’n cyflawni eu dyletswydd wrth chwarae gyda pharch, ac mi fydd y clwb gorau yn derbyn gwobr o £1,000 i fynd tuag at adnoddau. 

Ychwanegodd Ms Barnett: “Yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru rydym ni’n hynod o ddiolchgar i’n clybiau ni a’n hunigolion am gefnogi’r ymgyrch yma dros y tymhorau blaenorol. 

“Ond yn anffodus rydym ni’n gweld nifer uchel o gardiau melyn a choch y gellid eu hosgoi ar draws ein gemau, a gall y gost yma ar glybiau dros y tymor fod yn hynod o niweidiol.

“Dyna pam mae meithrin mwy o barch ar draws pêl-droed Cymru a datblygu mentrau unigryw i fynd i’r afael â hyn yn fwy pwysig nag erioed,” meddai.

Bydd wythnos Chwarae Deg yn cael ei gynnal rhwng 22 Medi a 1 Hydref eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.