Heddlu’r Met yn derbyn honiad o ymosodiad rhyw yn erbyn Russell Brand
Mae Heddlu’r Met wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn honiad o ymosodiad rhyw yn erbyn Russell Brand.
Mewn datganiad, dywedodd y llu fod yr ymosodiad honedig wedi digwydd yn Llundain yn 2003.
Daw wedi i bedair dynes honni eu bod wedi dioddef ymosodiadau rhyw rhwng 2006 a 2013, a hynny pan oedd y digrifwr a'r ymgyrchydd gwleidyddol yn gweithio i BBC Radio 2 a Channel 4, yn ogystal â serennu mewn ffilmiau Hollywood.
Daeth yr honiadau yn gyhoeddus yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan The Sunday Times, The Times a rhaglen Dispatches ar Channel 4.
Mae Russell Brand yn gwadu’r honiadau’n gryf ac mewn fideo a bostiwyd ar-lein ddydd Gwener, dywedodd fod pob un o'i bartneriaid rhywiol wedi cydsynio cyn cyhuddo’r cyfryngau o “ymosodiad cydgysylltiedig”.
Dywedodd yr Heddlu: “Ar ddydd Sul Medi 17, derbyniodd y Met adroddiad o ymosodiad rhywiol yr honnir iddo ddigwydd yn Soho yng nghanol Llundain yn 2003.
“Mae swyddogion mewn cysylltiad â’r ddynes a byddant yn rhoi cymorth iddi."
Ychwanegodd y llu eu bod nhw wedi bod yn cyfathrebu gyda The Sunday Times a Channel 4 ers dydd Sadwrn 16 Medi er mwyn sicrhau bod yr unigolion ynghlwm â’r honiadau yn ymwybodol ar sut i adrodd unrhyw honiadau troseddol yn swyddogol.
Daeth cadarnhad fore Mawrth hefyd bod y platfform fideo YouTube wedi penderfynu atal Mr Brand rhag elwa yn ariannol o'r hysbysebion oddi ar ei sianel.
Mae gan Mr Brand, sy'n 48 oed, dros chwe miliwn o danysgrifwyr ar ei dudalen YouTube ar hyn o bryd.
Mewn datganiad, dywedodd YouTube eu bod wedi gweithredu er mwyn "gwarchod cymuned" y platfform, gan ddweud fod Mr Brand wedi torri amodau polisi Cyfrifoldeb y Cynhyrchwyr.
Mae’r sioeau sy’n weddill ar daith Bipolarisation Russell Brand wedi’u gohirio yn dilyn yr honiadau yn y cyfryngau am y digrifwr a’r actor.
Roedd disgwyl i Russell Brand berfformio yn y Theatre Royal yn Windsor nos Fawrth.
Dywedodd hyrwyddwyr y sioe mewn datganiad: “Rydym yn gohirio’r ychydig sioeau hyn sy’n weddill, nid ydym yn hoffi ei wneud - ond rydyn ni'n gwybod y byddwch chi'n deall."
Mewn datganiad, dywedodd rheolwyr Theatr Windsor: “Bydd Theatre Royal Windsor yn cynnig ad-daliadau tocynnau yn unol â’n telerau ac amodau gwerthu.”
Roedd perfformiadau wedi'u hamserlennu ar gyfer dau leoliad arall y mis hwn - Y Pavilions yn Plymouth a The Civic At The Halls yn Wolverhampton.
Beth yw’r honiadau?
Mae nifer o fenywod wedi gwneud honiadau yn erbyn Mr Brand.
Mae un fenyw yn honni bod Mr Brand wedi ei threisio yn erbyn wal yn ei gartref yn Los Angeles. Cafodd driniaeth mewn canolfan argyfwng trais rhywiol ar yr un diwrnod. Dywed y Times ei fod wedi gweld cofnodion meddygol i gefnogi hyn
Mae ail ddynes yn honni i Mr Brand ymosod arni pan oedd yn 16 oed ac yn dal yn yr ysgol. Mae hi’n honni iddo gyfeirio ati fel "plentyn" yn ystod y berthynas.
Mae trydedd ddynes yn honni bod Mr Brand wedi ymosod yn rhywiol arni tra roedd hi’n gweithio gydag ef yn Los Angeles, a’i fod yn bygwth cymryd camau cyfreithiol pe bai’n dweud wrth unrhyw un arall am ei honiad
Honnodd y bedwaredd ddynes iddi gael ei hymosod yn rhywiol gan Mr Brand a'i fod yn ei cham-drin yn gorfforol ac yn emosiynol.
Llun: Jonathan Brady/PA Wire.