Newyddion S4C

Deiseb yn erbyn terfyn cyflymder 20mya newydd yn casglu 100,000 o lofnodion mewn llai nag wythnos

20mya

Mae deiseb ar wefan y Senedd yn galw am dro pedol ar derfyn cyflymder 20mya newydd Cymru wedi casglu 100,000 o lofnodion mewn llai nag wythnos.

Cafodd y ddeiseb gan Mark Baker ei chreu ar 13 Medi ond fe aeth heibio i 100,000 o lofnodion erbyn nos Lun. 

Mae hynny 20 gwaith dros y trothwy i’r Senedd drafod deiseb, sef 5,000 o lofnodion.

Dyma'r ddeiseb fwyaf ar wefan y Senedd. Yn flaenorol roedd 34,000 wedi arwyddo deiseb yn galw ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru.

Fe gasglodd deiseb blaenorol ar bwnc y terfyn cyflymder 21,000 o lofnodion ac fe gafodd ei thrafod yn y Senedd ar 28 Mehefin 2023.

"Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya," meddai'r ddeiseb.

"Rhoddwyd Llywodraeth Cymru yn ei lle gan bobl Cymru - ni yw eich pennaeth! Rydym yn mynnu bod y syniad hurt hwn yn cael ei atal."

'Digon'

Mae cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20mya wedi costio £32m i'r llywodraeth - ac mae'r gost, ac oedi posib i deithwyr wrth fynd ar eu taith wedi cythruddo gwrthwynebwyr y cynllun, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod poblogrwydd y ddeiseb yn dangos fod “pobl eisoes wedi cael digon” o’r terfyn newydd.

“Mae’r ffaith fod mwy ‘na 45,000 o bobl wedi arwyddo deiseb o fewn 24 awr yn dangos maint y dicter cyhoeddus tuag at bolisi gwallgofrwydd Llafur,” medden nhw.

“Mae hyn yn amlygu na fu fawr ddim ymgynghori, os o gwbl, â’r cyhoedd yn gyffredinol.

“Mae’r Llywodraeth Lafur yn amlwg wedi osgoi pob craffu cyhoeddus mewn ymgais i wthio eu hagenda sosialaidd drwodd.

“Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi gwrthod gwrando ar farn y cyhoedd ac yn parhau i wthio eu hagenda gwrth-weithwyr, gwrth-ffyrdd a gwrth-fodurwyr.

“Gyda’r polisi chwerthinllyd hwn yn cael ei orfodi ar bobl Cymru, gall Llafur barhau i droi pedol ar y broses gyflwyno drychinebus hon a chyflawni’r hyn y mae Cymru ei eisiau drwy ddileu parthau 20mya cyffredinol ledled Cymru.”

'Llwyddiannus'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C fod "cyflwyno terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya yn bolisi sydd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd".

“Mae lleihau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau ond hefyd yn gwella ansawdd bywyd - gan helpu i wneud ein strydoedd a'n cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb."

Yr wythnos diwethaf fe wrthododd y Prif Weinidog Mark Drakeford dderbyn awgrym arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y byddai'r newid yn effeithio ar amseroedd ymateb y gwasanaethau brys yng Nghymru:

“Mae ein holl wasanaethau golau glas wedi arfer yng Nghymru i ymdrin â chyfyngiadau 20mya, 30mya, 40mya, 50, 60, 70mya ar wahanol ffyrdd mewn gwahanol gyd-destunau.

“Maen nhw'n rheoli hynny'n berffaith lwyddiannus; byddan nhw'n rheoli hyn yn union yr un ffordd.”

Arwain y ffordd?

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r newid, ac mae'r llywodraeth yn dadlau y bydd y cam yn achub bywydau ac yn well i'r amgylchedd yn y pen draw.

Gobaith gweinidogion ym Mae Caerdydd yw y bydd y newid hefyd yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio mewn cymunedau, gan helpu i wella iechyd a lles pobl.

Yn ôl y llywodraeth, mae ymchwil yn dangos fod teithio 10mya yn arafach wrth yrru mewn ardaloedd trefol, yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau o 6% ar gyfartaledd.

Fe fydd Rheolau'r Ffordd Fawr yn cael eu diweddaru o ddydd Sul ymlaen i adlewyrchu'r newid sydd wedi dod i rym yma yng Nghymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.