Newyddion S4C

Rygbi: Eddie Jones yn dweud y byddai'r Wallabies yn ‘hapus i chwarae yn erbyn Cymru yfory'

18/09/2023
eddie jones

Mae Eddie Jones wedi dweud y byddai Awstralia yn 'hapus i chwarae yn erbyn Cymru yfory', wrth iddo baratoi'r Wallabies ar gyfer eu gêm yng Nghwpan Rygbi’r Byd y penwythnos nesaf.

Ar ôl ennill eu dwy gêm gyntaf gyda phwynt bonws, mae Cymru ar frig grŵp C gyda 10 pwynt, gyda Ffiji yn yr ail safle ar chwe phwynt, ac Awstralia yn drydedd, hefyd gyda chwe phwynt.

Y Wallabies sydd nesaf i Gymru, yn Lyon ar nos Sul 24 Medi, ac fe fyddai buddugoliaeth i dîm Warren Gatland yn eu rhoi mewn safle cryf i hawlio lle yn rownd yr wyth olaf.

Wedi eu colled gyntaf yn erbyn Ffiji ers 69 mlynedd ddydd Sul, mae hyfforddwr y Wallabies, Eddie Jones, yn dweud ei fod yn disgwyl "ymateb" gan ei chwaraewyr yn erbyn y Cymry.

Ar ddydd Llun, dywedodd Jones, a gafodd ei ddiswyddo o'i waith yn brif hyfforddwr Lloegr y llynedd: "Yr unig beth yr ydym yn ei boeni amdano'r wythnos hon yw Gymru.

"Fyddwn ni'n hapus i chwarae yn erbyn nhw yfory, os oedd awydd ganddyn nhw. Byddwn ni'n hapus i wneud y trefniadau teledu. Allwn ni ddim disgwyl am yr her.

"Mae ein sylw ar y gêm yn erbyn Cymru nawr. Yn erbyn Ffiji, doeddwn ni ddim yn gallu canfod ein rhythm. Yn gorfforol, fe gawsom ein dal allan ychydig ac roeddwn ni ar y droed ôl tan efallai'r 20 munud olaf.

"Roedd o'n brofiad caled i ddysgu ohono, ond fe wnawn ni fynd a'r gwersi yna i'r gêm yn erbyn Cymru.

"Mae Cymru yn dîm hollol wahanol. Maen nhw'n tynnu'r egni allan o'r gwrthwynebwyr yn raddol, tra bod Ffiji yn dîm sy'n dibynnu ar eu pŵer."

Cymru 'wedi gwella'

Pan ofynnwyd ar ôl y golled yn erbyn Ffiji a oedd yn credu fod y gêm yn erbyn Cymru yn dyngedfennol i’w dîm, atebodd: “Mae’n debyg, os y’ch chi’n edrych ar y rhifau. Dw i’n meddwl ei fod, ond does dim amheuaeth gen i y byddwn ni’n cael ymateb gan y chwaraewyr. Mae'n rhaid bod yn barod am Gymru.

“Roedd o’n fuddugoliaeth gwbl haeddiannol i Ffiji, fe wnaethon nhw chwarae’n well na ni, yn enwedig o gwmpas y ryc. Am ryw reswm, doeddwn ni ddim ein hunain heddiw, roeddwn ni’n fersiwn sâl o’n hunain.

“Felly mae yna ychydig o fyfyrio sydd angen ei wneud, ac mae’n gwneud y gêm yn erbyn Cymru yn un bwysig.

“Dyna yw’r peth gorau am Gwpan y Byd, yw’r ffaith nad yw hyn yn ddiwedd y daith. Mae Cymru gyda ni wythnos nesaf, a fydd rhaid i ni weithio allan ble allwn ni wella yn gyflym cyn symud ymlaen i’r gêm yn erbyn Cymru.

“Maen nhw wedi mynd yn ôl i'r ffordd draddodiadol y mae tîm Cymru yn ei chwarae. Mae lot o’u chwarae yn dod drwy Biggar. Mae eu hamddiffyn wedi gwella ac mae’r lein wedi gwella.

"Maen nhw wedi gwneud newidiadau mawr yn eu harddull ers i Warren [Gatland] ddod nôl. Mi fyddan nhw’n dîm anodd eu curo.”

Dywedodd capten Awstralia, David Porecki: “Mae'n rhaid cael yn barod am Gymru. Mae pob gêm yn un dyngedfennol i mi. Wnaethon ni ddim cael e’n iawn heno ond fe wnawn ni wythnos nesaf.

“Mae cyfnod byr i ni baratoi am Gymru nawr, mae’n rhaid i ni gael ein hunain i fyny am y gêm yna, sydd yn beth hawdd gan ei fod yn gêm yng Nghwpan y Byd.”

Llun: X/@wallabies

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.