Darlledwyr yn ymchwilio 'ar frys' yn dilyn honiadau am Russell Brand
Mae’r BBC, Channel 4 a chwmni cynhyrchu arall wedi dweud ar y cyd eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad “ar frys” i’r honiadau yn erbyn Russell Brand.
Daw wedi i bedair dynes honni eu bod wedi dioddef ymosodiadau rhywiol rhwng 2006 a 2013, a hynny pan oedd y digrifwr a'r ymgyrchydd gwleidyddol yn gweithio i BBC Radio 2 a Channel 4, yn ogystal â serennu mewn ffilmiau Hollywood.
Mae Rusell Brand hefyd yn wynebu honiadau gan unigolion o geisio rheoli eraill ac ymddygiad camdriniol yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan The Sunday Times, The Times a rhaglen Dispatches ar Channel 4.
Mae Mr Brand yn gwadu’r honiadau’n chwyrn ac mewn fideo a bostiwyd ar-lein ddydd Gwener, dywedodd fod pob un o'i bartneriaid rhywiol wedi cydsynio cyn cyhuddo’r cyfryngau o “ymosodiad cydgysylltiedig”.
Mae’r BBC wedi dweud eu bod nhw'n “ymchwilio i’r materion sydd wedi’u codi ar frys,” a hynny’n benodol ynglŷn â’r cyfnod pan oedd Mr Brand yn gweithio ar raglenni radio’r darlledwr rhwng 2006 a 2008.
Mae Channel 4 hefyd wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad mewnol yn dilyn yr honiadau.
Mewn datganiad dywedodd Channel 4: “Rydym am ysgrifennu at ein holl gyflenwyr presennol i’w hatgoffa o’u cyfrifoldebau o dan ein Cod Ymddygiad, am ein bod ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein diwydiant yn un diogel, cynhwysol a phroffesiynol.”
Daw'r datganiad wedi i Mr Brand cael ei gyhuddo o roi pwysau ar aelodau o gynulleidfaoedd EFourum a Big Brother’s Big Mouth, yr oedd yn ei gyflwyno ar ran Channel 4 ar y pryd.
Mae un ymchwilydd wedi honni fod pryderon am ymddygiad Mr Brand yn ystod y cyfnod yma wedi cael eu rhannu gyda chynhyrchwyr Endemol, sef y cwmni a gomisiynwyd gan Channel 4 i gynhyrchu’r rhaglenni yn 2004 a 2005, ond fe gafodd y cwynion eu diystyru.
Heddlu
Ers cyhoeddi’r honiadau, mae The Times wedi dweud bod “sawl menyw” wedi cysylltu gyda’r papur newyddion gyda honiadau pellach ond nad yw'r rheiny eto wedi cael eu hymchwilio'n llawn.
Dywedodd Heddlu’r Met y byddan nhw’n cyfathrebu gyda The Sunday Times a Channel 4 er mwyn sicrhau bod yr unigolion ynghlwm â’r honiadau yn ymwybodol ar sut i adrodd unrhyw honiadau troseddol yn swyddogol.
Ond cadarnhaodd llefarydd ar ran adran heddlu Los Angeles (yr LAPD) nad oes unrhyw ymchwiliad yn cael ei gynnal yn erbyn Mr Brand ar hyn o bryd. Dywedodd llefarydd arall nad oes unrhyw arestiadau wedi cael ei wneud yn dilyn y ddau honiad yn ei erbyn yn yr UDA.
Beth yw’r honiadau?
Mae nifer o fenywod wedi gwneud honiadau yn erbyn Mr Brand.
Mae un fenyw yn honni bod Mr Brand wedi ei threisio yn erbyn wal yn ei gartref yn Los Angeles. Cafodd driniaeth mewn canolfan argyfwng trais rhywiol ar yr un diwrnod. Dywed y Times ei fod wedi gweld cofnodion meddygol i gefnogi hyn
Mae ail ddynes yn honni i Mr Brand ymosod arni pan oedd yn 16 oed ac yn dal yn yr ysgol. Mae hi’n honni iddo gyfeirio ati fel "plentyn" yn ystod y berthynas.
Mae trydedd ddynes yn honni bod Mr Brand wedi ymosod yn rhywiol arni tra roedd hi’n gweithio gydag ef yn Los Angeles, a’i fod yn bygwth cymryd camau cyfreithiol pe bai’n dweud wrth unrhyw un arall am ei honiad
Honnodd y bedwaredd ddynes iddi gael ei hymosod yn rhywiol gan Mr Brand a'i fod yn ei cham-drin yn gorfforol ac yn emosiynol.
Llun: Jonathan Brady/PA Wire.