Galw ar y llywodraeth i dreialu mannau diogel i helpu camddefnyddwyr cyffuriau

Mae Cyn-Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban i dreialu mannau diogel i helpu camddefnyddwyr cyffuriau fel rhan o’r broses adfer.
Fel rhan o’r cynllun i leihau nifer y marwolaethau yn yr Alban o ganlyniad i’r camddefnydd o gyffuriau - y ffigwr mwyaf yn y DU a gweddill Ewrop - mae Llywordraeth yr Alban yn cefnogi cynlluniau i agor ‘canolfan atal gorddos’ yn Glasgow.
Er nad oes cynlluniau gan Lywordraeth y DU i dreialu mentrau tebyg, dywedodd Ysgrifennydd yr Alban na fyddai’n ceisio gwahardd y cynllun.
Mewn ymateb, fe wnaeth Arfon Jones alw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael â marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau:
Dywedodd: “Mae'r Arglwydd Adfocad wedi penderfynu ei bod hi ddim o ddiddordeb cyhoeddus i erlyn pobl sy’n cymryd cyffuriau yng nghyffiniau yr ystafell cymryd cyffuriau.
“Mae o’n gam mawr ymlaen i arbed bywydau.
“Dwi’n gobeithio’n fawr fydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn agos ar y peilot yma fydd yn rhedeg yn yr Alban ac yn cyflwyno rhywbeth tebyg.”
'Dim esgus'
Mae iechyd yn bŵer datganoledig yn y ddwy wlad, felly, mae Arfon Jones yn dweud bod disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud camau tebyg i Lywodraeth yr Alban.
“Does gennyn nhw ddim esgus i beidio ag ymateb, mae cannoedd yn marw o orddos cyffuriau bob blwyddyn, felly mae hi’n esgeulustod mawr os nad ydyn nhw’n mynd i wneud rhywbeth ynglyn â’r peth,” meddai.
“Mae’r cynllun yn win-win gan ei fod yn arbed bywydau ac yn annog pobl sydd yn defnyddio [cyffuriau] i beidio â’u cymryd ar y stryd, sy’n lleihau nifer y nodwyddau mewn parciau plant ac ati.
“Does yna ddim dadl yn ei erbyn i ddweud y gwir.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r defnydd o faniau gorddos neu ‘fannau chwistrellu diogel’ yn fater i Lywodraeth y DU gan fod y camddefnydd o gyffuriau ddim wedi ei ddatganoli.
“Rydym yn ymroddedig i leihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan gamddefnyddio cyffuriau, drwy weithio’n agos gyda phartneriaid i roi cymorth a thriniaeth mor gyflym â phosib, ahefyd i gyrraedd y bobl sydd ddim mewn cyswllt â gwasanaethau camdrin sylweddau”