Newyddion S4C

Cyhoeddi y bydd ail gyfres o Dal y Mellt ar S4C yn 2024

15/09/2023
dal y mellt

Bydd ail gyfres y ddrama Dal y Mellt i’w gweld ar S4C yn 2024.

Mae ffilmio eisioes wedi dechrau ar yr ail gyfres ym Mangor, Caerdydd a Llundain.

Mae’r gyfres wedi ei seilio ar nofel newydd Iwan ‘lwcs’ Roberts ‘Dal Arni’ sydd yn ddilyniant i’w nofel ‘Dal y Mellt’.

Vox Pictures sydd yn cynhyrchu’r ddrama.

Cafodd cyfres gyntaf Dal y Mellt ei werthu i Netflix dan yr enw Rough Cut.

Dyma oedd y ddrama iaith Gymraeg gyntaf i gael ei dangos ar y gwasanaeth ffrydio.

Mae Gwion Morris Jones yn dychwelyd fel y prif gymeriad, Carbo tra bod Mici. Gronw, Antonia, Dafydd Aldo, Mêri Jen, Cidw, Jiffy a Julia yn ail-ymuno ar y siwrnai gyffrous.

Bydd nifer o gymeriadau newydd yn ymddangos yn yr ail gyfres, gyda Matthew Gravelle yn portreadu Blew.

'Cyffro'

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Pennaeth Sgriptio S4C: “Ar ôl llwyddiant y gyfres gyntaf ar S4C a Netfix dwi’n hynod o falch i gyhoeddi bydd y criw hoffus yn ôl am antur gyffrous arall flwyddyn nesaf.

“Mae’r stori yn parhau ac mae yna gymeriadau newydd a her newydd yn wynebu’r gang.

“Mae hwn yn gynhyrchiad uchelgeisiol fydd â chynulleidfa yma yng Nghymru ond ein bwriad yw sicrhau fod cynulleidfaoedd rhyngwladol yn gweld y gyfres hefyd.”

Dywedodd Llŷr Morus, Pennaeth Cynhyrchu Vox Pictures:

“Mae Vox Pictures yn falch iawn o fod mewn cynhyrchiad eto gyda S4C ar yr ail gyfres o Dal y Mellt. 

“Mae'n wych gallu adeiladu ar lwyddiant y gyfres gyntaf a dod a'r gang o gymeriadau lliwgar nôl at ei gilydd, a gweld y da a'r drwg yn croesi llwybrau. 

“Mae heist arall llawn cyffro ar y gweill wrth i'n criw hoffus fynd ar ôl cyfoeth a chariad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.