'Diffygion sylweddol' mewn rheolaeth ariannol yng Nghyngor Tref Rhydaman
Mae adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dod i'r casgliad bod "diffygion sylweddol mewn rheolaeth ariannol a llywodraethu" yng Nghyngor Tref Rhydaman.
Roedd hyn yn golygu ei fod wedi methu â rhoi "cyfrif priodol am bron i £800,000 o arian a godwyd gan drethdalwyr lleol drwy'r dreth gyngor".
Ychwanegodd yr Archwilydd: "Nid yn unig y gwnaeth y Cyngor ddiystyru ein canfyddiadau archwilio cychwynnol ond hefyd ni chymerodd gamau priodol i ddiffygion a nodwyd gan ei archwilydd mewnol ei hun.
"Mae gwersi i'w dysgu nid yn unig gan y Cyngor hwn, ond gan bob cyngor cymuned yng Nghymru."
Archwilio Cymru sydd yn gyfrifol am archwilio cyfrifon cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, yr heddlu, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned, yn ogystal â Llywodraeth Cymru.
'Pryder difrifol'
Dywedodd Archwilio Cymru yn ei adroddiad am Gyngor Tref Rhydaman: "Mae’r esgeulustod hwn yn bryder difrifol, gan ei fod yn dynodi diffyg tryloywder ac atebolrwydd yn arferion ariannol y Cyngor.
"Mae’n codi cwestiynau ynglŷn â gallu’r Cyngor i reoli arian cyhoeddus a chyflawni ei ddyletswydd tuag at y gymuned mewn modd effeithiol."
Darganfyddodd archwilwyr fod cofnodion yng nghyfrifon 2017-18 a ddarparwyd i’w harchwilio wedi cael eu diwygio:
• Cafodd costau staff eu newid o £36,373 i £42,502
• Cafodd taliadau eraill eu diwygio o £105,085 i £97,970
• Cafodd balansau a gariwyd ymlaen eu newid o £149,095 i £150,031
Ychwanegodd yr adroddiad: "Nid yw’n glir a wnaed y newidiadau cyn ynteu ar ôl i’r Cadeirydd lofnodi’r ffurflen flynyddol. Felly, ni allaf ddod i gasgliad pa un a yw’r Cyngor yn ymwybodol o’r newidiadau a wnaed i’r cyfrifon ai peidio."
'Diystyru'
Nid oedd y cyngor wedi ymateb yn briodol chwaith i ymholiadau'r archwilwyr medd Archwilio Cymru:
"Er ei fod yn ymwybodol fy mod yn ystyried cyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd, mae’r Cyngor wedi methu ag ystyried fy nghanfyddiadau archwilio ac wedi diystyru fy nghyfathrebiadau ar ddau achlysur ar wahân."
Dywedodd yr adroddiad hefyd mai dim ond swm cyfyngedig o’r wybodaeth y mae’n ofynnol i’r Cyngor ei chyhoeddi’n electronig y mae gwefan y Cyngor yn ei gynnwys.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r Cyngor wedi dweud ei fod wedi gwella ei brosesau ac y bydd yn parhau â’r arfer o ddatblygu a gwella’n barhaus.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Chyngor Tref Rhydaman am ymateb.
Llun: Google