
Buddugoliaeth dros Ffiji yn rhoi momentwm i Gymru 'symud yn bell' yng Nghwpan y Byd
Mae cyn-fewnwr Cymru Mike Phillips yn credu y gallai’r fuddugoliaeth dros Ffiji yng Nghwpan Rygbi’r Byd sbarduno’r tîm i fynd yn bell yn y gystadleuaeth.
Mae’r fuddugoliaeth pwynt bonws yn Bordeaux wedi rhoi Cymru yn yr ail safle yng Ngrŵp C ac mewn safle cryf i gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Mae strwythur y gystadleuaeth yn golygu y bydd y ddau dîm sydd yn gorffen uchaf yng ngrwpiau A a B yn wynebu ei gilydd – sydd yn cynnwys y pum tîm uchaf ar restr detholion y byd – Iwerddon, De Affrica, Ffrainc, Seland Newydd a’r Alban.
Ond yn hanner y gystadleuaeth mae Cymru ynddo, mi fyddan nhw yn debygol o wynebu Lloegr neu’r Ariannin yn y chwarteri – dau dîm sydd llawer yn is ar y rhestr detholion.
Ac os bydd y Cymry yn llwyddo i gipio un o’r ddau safle yn eu grŵp, mae Mike Phillips yn credu bod ganddyn nhw ddigon i drechu’r Saeson neu’r Archentwyr.
Dywedodd: “Oedd y gêm yn erbyn Ffiji yn arbennig. Nes i joio fe mas draw a sa i’n dweud ‘na am lot o gemau, ond oedd popeth yn y gêm.
“Odd Ffiji yn arbennig, ond oedd e’n grêt gweld Cymru’n cael y fuddugoliaeth ‘na. Gobeithio bydd hynny’n creu’r momentwm na a symud ymlaen yn bell yn y Cwpan.
“Dyle Cymru curo yn erbyn Lloegr neu’r Ariannin. Mae eu ffitrwydd yn sefyll mas i fi a fydden nhw yn gwella hefyd.

“Mae’r gêm gynta’ mewn unrhyw bencampwriaeth yn wastad yn anodd a ni’n dueddol o fod yn araf yn dechrau, mae hanes yn dweud ‘na.
“Ond pan ni yn cael y fuddugoliaeth gyntaf ‘na, mae’r hyder yn tyfu a ni off. Mae ishe hynny arnon ni fel timau o Gymru, ni’n dueddol o fod yn eitha’ tawel a ddim bacio ein hunan weithie.
“Mae 'na dal gemau anodd i ddod. Sa i’n credu bydd y bois yn edrych ar y chwarteri nawr. Mae Portiwgal cyntaf, wedyn Awstralia a Georgia, felly mae gemau anodd i ddod ac mae wastad rhywbeth yn digwydd – wastad anaf, neu broblemau, felly un cam ar y tro ond mae’r bois ar ochr gywir y draw ac mae popeth ‘da nhw nawr."
‘Cadw mynd’
Roedd y cyn-fewnwr yn rhan ganolog o dîm Cymru yng Nghwpan y Byd 2011 – sef y gyntaf dan arweiniad Warren Gatland, ac mae’n gweld tebygrwydd rhwng y ddwy garfan.
“I fi, maen nhw bron a bod yr un peth. Mae ‘na phrofiad yna ond hefyd mae 'na fois ifanc sy’n dod mewn fel Jac Morgan, Louis Rees-Zammit, Gareth Thomas.
“Gobeithio bod nhw’n gallu creu'r excitement yna nawr, oedd e’n gêm mor gyffrous yn erbyn Ffiji a rhaid cadw mynd nawr.
“Fydd pawb yng Nghymru y tu ôl iddyn nhw a dyna beth ni moyn.”
Bydd y gêm Cymru v Portiwgal yn cael ei dangos yn fyw ar S4C am 16.45 ddydd Sadwrn.