Dros 5,000 wedi marw mewn llifogydd yn Libya a miloedd yn dal ar goll
Dros 5,000 wedi marw mewn llifogydd yn Libya a miloedd yn dal ar goll
Mae o leiaf 5,000 o bobl wedi marw mewn llifogydd difrifol yn Libya yn Affrica, gyda 10,000 yn rhagor o bobl yn dal i fod ar goll.
Mae pryderon y gallai nifer y meirw godi yn sylweddol eto wrth i'r chwilio barhau yng nghanol y difrod.
Yn ninas Derna yn nwyrain y wlad, mae cyrff weddi eu claddu mewn beddi anferth.
Fe ysgubodd y llifogydd drwy Derna ddydd Sul wedi i ddau argae chwalu yn ystod Storm Daniel.
Mae cymorth dyngarol yn dechrau cyrrraedd Libya, gyda'r Aifft ymhlith y cyntaf i anfon nwyddau yno. Ond mae'r ymgais i achub bobl yn heriol oherwydd y sefyllfa wleidyddol yn Libya, gyda'r wlad wedi ei hollti oherwydd dwy lywodraeth sy'n anghydweld.
Mae Unol Daleithiau America, Yr Almaen, Iran , Yr Eidal, Twrci a Qatar ymhlith y gwledydd sydd yn y broses o anfon cymorth dyngarol yno.
Er gwaetha'r ansefydlogrwydd gwleidyddol yn Libya, mae'r llywodraeth yn y brifddinas Tripoli wedi anfon awyren gydag 14 tunnell o gyflenwadau meddygol, a mwy nag 80 o feddygon a pharameddygon i'r rhanbarth sydd wedi ddioddef waethaf yn y dwyrain.