Newyddion S4C

Gweithwyr cyngor yn cyhoeddi streiciau ychwanegol

12/09/2023
Streic Cyngor

Mae rhai gweithwyr cyngor wedi cyhoeddi bod tair wythnos ychwanegol o streiciau ar y gweill wrth i’r anghydfod dros dâl ddwysau.

Mae gweithwyr awdurdodau lleol Cyngor Caerdydd a Chyngor Wrecsam sydd yn aelodau o undeb Unite wedi cyhoeddi y byddant yn cynnal streiciau ychwanegol  rhwng 25 Medi a 15 Hydref.

Mae’r gweithwyr eisoes yng nghanol cyfnod o weithredu diwydiannol, fydd yn dod i ben ar 17 Medi.

Daw hyn wedi cyhoeddiad y bydd rhai o weithwyr Cyngor Gwynedd hefyd yn cynnal streic o ddydd Mawrth 12 Medi, hyd at 17 Medi.

Mewn pleidlais, gwrthododd aelodau Unite gynnig tâl o £1,925 ychwanegol gan awdurdodau lleol, sydd yn gynnig 'gwaeth' na chynnig y llynedd sydd yn 'cynrychioli toriad mewn termau real', yn ôl yr undeb.

Mae aelodau Unite ym mhob cyngor yng Nghymru, a bydd y streiciau yn effeithio fwyaf ar gasgliadau ysbwriel a chanolfannau ailgylchu.

Dywedodd Sharon Graham, ysgrifennydd cyffredinol Unite: “Mae tâl gweithwyr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng yn ddifrifol dros y blynyddoedd diwethaf.

“Er hynny, mae eu cyflogwyr yn credu ei fod yn dderbyniol i gynnig yr hyn sydd yn gyfystyr â thoriad mewn termau real, pan mae gweithwyr yn ei chael hi’n fwyfwy anodd i ymdopi â chostau byw.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae’r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn ddiolchgar o flaen llaw am amynedd trigolion lleol os na fydd rhai gwasanaethau o fewn adrannau Amgylchedd, Priffyrdd, Peirianneg a YGC yn cael eu cynnal yn ôl yr arfer.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Oherwydd y streic estynedig, mae'n bosibl y bydd gweithredu diwydiannol bellach yn effeithio ar wasanaethau eraill y cyngor.

"Byddwn yn rhoi gwybod i drigolion cyn gynted ag y gallwn pa wasanaethau yr effeithir arnynt os bydd hyn yn digwydd. Gwiriwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol bob dydd am ddiweddariadau.

"Fel y gwyddoch, mae rhai gwasanaethau gwastraff eisoes wedi’u heffeithio gan y streic ac rydym yn disgwyl i’r gwasanaethau hyn barhau i gael eu heffeithio rhwng nawr a Hydref 16eg - ond rydym am i chi wybod ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau unrhyw effaith arnoch chi."

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â chynghorau Wrecsam am eu hymateb.

Llun: Unite Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.