Ffliw adar yn dinistrio nythfaoedd adar morol
Mae mwy na 7,000 o adar morol wedi marw o ffliw adar mewn nythfaoedd gwerthfawr ar draws y DU, gan gynnwys rhai yng Nghymru.
Dywedodd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod 6,000 o adar wedi marw ar ynysoedd Farne oddi ar arfordir gogledd ddwyrain Lloegr yn 2022 ond fod nythfaoedd pwysig eraill heb eu heffeithio.
Er i bethau wella yno oherwydd gofal wardeiniaid fe wnaeth y sefyllfa ddirywio mewn mannau eraill o’r DU, gan gynnwys Cemlyn ar Ynys Môn a rhannau o arfordir Sir Benfro.
Llynedd, gwylogod a gwylanod coesddu gafodd eu heffeithio fwyaf gan ffliw adar ac eleni y gwylanod coesddu a gwylanod mawr sydd wedi eu heffeithio.
Yng Nghemlyn, casglwyd dros 1,200 o adar oedd wedi marw, gyda 771 o’r rheini yn fôr-wenoliaid pigddu.
Dywedodd uwch reolwr gwarchodfeydd i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru: “Llynedd, roedd ein hadar môr wedi osgoi’r ffliw adar felly mae wedi bod yn dorcalonnus i weld yr effaith yma dros y misoedd diwethaf."
Newid hinsawdd
Yn Sir Benfro mae cannoedd o adar meirw wedi golchi ar draethau. Yn gynharach yn yr wythnos, fe rybuddiodd cymdeithas gwarchod adar RSPB Cymru bod "cwymp difrifol" ym mhoblogaeth y nythfa fwyaf o huganod yng Nghymru ar Ynys Gwales, Sir Benfro.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae nifer yr adar wedi gostwng 52% o ganlyniad i achosion o ffliw adar yn 2022.
Mae’r gymdeithas yn rhybuddio bod y nythfa hefyd o dan fygythiad oherwydd ffactorau eraill fel newid hinsawdd a diffyg bwyd.
Mae Ynys Gwales 11 milltir oddi ar Benmaen Dewi yn Sir Benfro. Mae fel arfer yn gartref i hyd at 36,000 pâr o huganod y gogledd.
Mae’n un o ddwy nythfa huganod yng Nghymru, a'r drydedd fwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Cyn 2022, roedd Ynys Gwales yn gartref i ychydig o dan 10% o boblogaeth huganod y gogledd ledled y byd.
Ond cafodd ymchwil ei gynnal ym mis Gorffennaf 2023 gan RSPB Cymru gydag arian gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a daeth i'r casgliad fod nifer yr huganod sy’n nythu ar yr ynys eleni wedi gostwng yn sylweddol.