Newyddion S4C

Miloedd o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn nerthol yn Moroco

Miloedd o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn nerthol yn Moroco

Daeth cadarnhad fore Sul bod dros 2,000 o bobl wedi marw erbyn hyn yn dilyn daeargryn nerthol yn Moroco nos Wener.

Dywedodd llywodraeth y wlad fod o leiaf 1,400 o bobl wedi eu hanafu yn sgil y daeargryn oedd yn mesur 6.8 ar raddfa Richter ym mynyddoedd Atlas i’r de-orllewin o ddinas Marrakesh am tua 23.00 amser lleol nos Wener.

Roedd ôl-gryniad o 4.9 tua 20 munud yn ddiweddarach.

Bu farw pobl yn ninas hanesyddol Marrakesh ac mewn nifer o ardaloedd i’r de.

Mae’r Brenin Mohammad VI wedi cyhoeddi tridiau o alaru cenedlaethol ac wedi gorchymyn cysgod, bwyd a chymorth arall i’r goroeswyr.

Mae nifer o bobl wedi gwario ail noson allan yn yr awyr agored oherwydd y perygl o adeiladau’n dal i ddymchwel.

Mae nifer o adeiladau wedi dymchwel yn ardal hen ddinas Marrakesh, sy'n un o safloedd treftadaeth y byd, ac mae pobl wedi bod yn aros allan yn yr awyr agored.

Yn ôl awdurdodau’r wlad mae cannoedd o bobl hefyd wedi eu dal o dan rwbel yr adeiladau.

'Sgrechian'

Fe darodd y daeargryn mewn ardal anghysbell o fynyddoedd Atlas ac mae pryderon nad yw’r adeiladau syml yno wedi goroesi a bydd yn cymryd tipyn o amser i gyrraedd y bobl yno.

Roedd Jane Felix-Richards o Gaerdydd ar wyliau yn Marrakesh gyda’i theulu ac mae wedi disgrifio'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd: “Neithiwr, roedden yn eistedd yn y bar tan 11 o’r gloch y nos pan darodd y daeargryn.

“Y sŵn o’dd y peth cynta i daro ni, ro’dd e mor swnllyd, mor ddwfn ag o’n i’n meddwl bod bom wedi mynd off, a bod y to yn mynd i ddisgyn lawr.

“Ro’dd y chandeliers yn swingio, ro’dd plastr yn dod oddi ar y waliau, gwydrau yn smasho, gweiddais ar y teulu i redeg."

Roedd cyflwynydd Newyddion S4C Bethan Rhys Roberts yn Marrakesh pan darodd y daeargryn nos Wener.

Dywedodd ar y pryd: “Mae’n dri o’r gloch y bore, ‘da ni ‘di dod allan mewn un ardal o’r ddinas yma yn Marrakesh ag mi o’dd y daeargryn yn syfrdanol, pawb yn sgrechian, pawb yn rhedeg allan.

“'Da ni ‘di dod fan hyn, a ‘da ni’m yn gwybod be’ sy’n mynd i ddigwydd nesa’.

"Ma’ ‘na adroddiadau bod yr hen ddinas wedi cael ei effeithio’n wael ond ‘da ni ddim yn cael unrhyw wybodaeth fan hyn."

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.