Camera i atal fandaliaeth wedi ei fandaleiddio ar Ynys Môn
Mae camera i geisio atal ymddygiad gwrth gymdeithasol yn ardal Cemaes ar Ynys Môn wedi ei fandaleiddio llai na 24 awr ar ôl cael ei osod.
Roedd Cyngor Cymunedol Llanbadrig wedi gobeithio byddai’r camera yn helpu dygymod â materion yn ymwneud â mynediad direolaeth i’r traeth gan ddefnyddwyr cychod a beiciau dŵr.
Mae hefyd problemau wedi bod yn yr ardal o wastraff dynol a sbwriel yn cael eu gollwng i'r afon a barbeciws tafladwy yn achosi perygl o danau.
Ond roedd y camera, a gostiodd £2,000, wedi cael ei ddifrodi o fewn 24 awr i gael ei osod ac mae’r cyngor wedi lansio apêl am wybodaeth a chyfeirio’r mater i’r heddlu.
'Cwyno'
Dywedodd y cyngor fod y camera wedi ei osod yn dilyn cwynion a phryderon gan bobl leol ynglŷn ag iechyd a diogelwch yn yr ardal.
Mae system goriad mewn lle er mwyn rheoli mynediad ond mae cwynion wedi bod am bartïon ar y traeth yn hwyr yn y nos a cheir yn gyrru ar hyd y promenâd tra bod pobl yn cerdded.
Dywedodd y cyngor: “Mae nifer o rieni wedi cwyno am y digwyddiadau yma ac fel cyngor rydym yn ymateb i bryderon y trigolion lleol.
"Mae diogelwch ein trigolion ac ymwelwyr yn bwysig iawn i ni fel aelodau’r cyngor.
"Mae’r cyngor wedi gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu â nhw ar Llanbadrig@live.co.uk neu’r heddlu gan nodi cyfeirnod A128301."