Newyddion S4C

'Ni fydd unrhyw ddedfryd yn ddigon' meddai mam am ddyn a laddodd ei merch drwy yrru'n beryglus

08/09/2023
chloe.png

Mae mam merch ifanc a gafodd ei lladd mewn damwain car wedi dweud na fydd unrhyw amser yn y carchar "fyth yn ddigon" wedi i ddedfryd y dyn oedd yn gyfrifol am ei marwolaeth gael ei gynyddu. 

Dywedodd Danielle O'Halloran, 36, ei bod yn gobeithio y gall Keilan Roberts "wneud ychydig o les" gyda'i fywyd ar ôl treulio cyfnod estynedig yn y carchar am achosi marwolaeth Chloe Hayman, 17, drwy yrru'n ddiofal. 

Mae hefyd yn gobeithio y bydd y ddedfryd estynedig yn atal pobl rhag gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Fe wnaeth Roberts, sydd bellach yn 22, gyfaddef i bedwar cyhuddiad yn ymwneud â marwolaeth Chloe, a oedd yn teithio yn y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn oriau mân Gorffennaf 24 y llynedd. 

Roedd ganddo alcohol, cocên, cetamin ac ecstasi yn ei system wrth yrru Skoda Octavia yn dilyn noson allan ym Mhontypridd. 

'Peidiwch'

Cafodd Keilan Roberts ei garcharu yn wreiddiol yn Llys y Goron Caerdydd am dair blynedd a naw mis ond fe gafodd ei gynyddu i bum mlynedd a thri mis gan y Llys Apêl ddydd Gwener. 

Wrth ymateb, dywedodd Miss O'Halloran: "Byddwn yn byw gyda dedfryd oes am byth heb Chloe.

"Rydyn ni’n delio â’r golled honno bob dydd yn sgil y weithred hunanol.

"Yn anffodus, ni fydd unrhyw ddedfryd fyth yn teimlo yn ddigon gan ein bod ni wedi colli Chloe."

Ychwanegodd: "Ni allaf ond obeithio fod y cynnydd yn y ddedfryd yn gwneud rhywbeth er mwyn atal unrhyw un rhag gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Jyst peidiwch â'i wneud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.