Newyddion S4C

Dyn 72 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad mewn tafarn ym Mhen-y-bont ar Ogwr

07/09/2023
Gavin Weekes

Mae dyn 72 oed a gafodd ei gludo i’r ysbyty yn dilyn ymosodiad ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth bellach wedi marw.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi mai enw'r dyn fu farw oedd Gavin Weekes ac roedd yn dod o Bencoed. 

Bu farw Mr Weekes wedi iddo ddioddef ymosodiad yn nhafarn The Chatterton Arms am oddeutu 20.30 nos Fawrth, 29 Awst.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad tra bod teulu Mr Weekes yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. 

Mewn datganiad dywedodd teulu Mr Weekes eu bod wedi "torri eu calonnau" yn dilyn ei farwolaeth: 

“Hoffem ddiolch i deulu a ffrindiau am eu holl gefnogaeth a negeseuon o gymorth yn ystod y cyfnod hwn.”

Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio mewn cyswllt â’r digwyddiad. Mae’r dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau’r heddlu barhau. 

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies o Heddlu De Cymru: “Hoffwn rannu fy nghydymdeimlad gyda theulu Mr Weekes yn ystod y cyfnod trist yma.

“Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un oedd yn bresennol yn y Chatterton Arms yn ystod y digwyddiad y gellir fod â gwybodaeth a fyddai’n cynorthwyo ein hymchwiliad, i gysylltu â’r heddlu.”

Mae llygad-dystion yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2300291285.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.