Newyddion S4C

Tafarn boblogaidd yn Euro 2016 yn barod i groesawu rhagor o Gymry i Bordeaux

08/09/2023

Tafarn boblogaidd yn Euro 2016 yn barod i groesawu rhagor o Gymry i Bordeaux

Mae rheolwr tafarn yn Bordeaux oedd yn boblogaidd iawn gyda chefnogwyr pêl-droed Cymru yn ystod pencampwriaeth Euro 2016 yn dweud fod ei staff yn barod i gynnig croeso i'r Cymry sydd wedi teithio i'r ddinas ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd eleni. 

Roedd tafarn Charles Dickens yn ganolbwynt i gannoedd o gefnogwyr Cymru yn Bordeaux yn ystod yr Euros yn 2016.

Aeth perchnogion y dafarn mor bell a chlodfori’r cefnogwyr am eu caredigrwydd yn dilyn y bencampwriaeth.

Florian Feuillais yw rheolwr y dafarn ac mae’n edrych ymlaen at groesawu’r Cymry'n ôl unwaith eleni.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd: “’Ni’n hynod o gyffrous. 

“Yn enwedig i fy nhîm i (o staff), dydyn ni byth erioed wedi profi digwyddiad o’r math yma. 

“Mae’n rhywbeth y dylai pawb cael y cyfle i'w brofi o leiaf unwaith yn eu hoes. Fe fydd e’n brofiad anhygoel."

'Paratoi'

Nid oedd Mr Feuillais yn disgwyl cymaint o Gymry yn y ddinas yn 2016, a bu'n rhaid i'r dafarn brynu mwy o gwrw, cymaint oedd y galw ymysg y Wal Goch sychedig ar y pryd.

Gyda gêm agoriadol Cymru yn erbyn Ffiji ddydd Sul mae’n debyg y bydd llawer o Gymru'n heidio i'r dafarn unwaith eto i dorri syched cyn y gêm fawr.

Wrth drafod ei atgofion o 2016, ychwanegodd Mr Feuillais: “Draw fan hyn ger yr afon ac ar y llwybr cerdded, mi oedd y lle yn llawn pobl. Roedd pobl hyd yn oed yn blocio’r strydoedd fel nad oedd ceir na’r tram yn gallu mynd heibio. 

“Roedd pob man yn llawn dop a phobl yn bloeddio'n llawn hapusrwydd. 

“Roedd rhaid i ni archebu dwsinau o kegs yn ddyddiol. Fel arfer ‘dyn ni ond yn ‘neud hynny dwy neu dair gwaith yn ystod yr wythnos ond pryd ‘ny, mi oedd o’n ddyddiol.”

Ond ni fydd y dafarn yn gwneud yr un camgymeriad eto eleni, meddai.

“Er o’n ni’n ymwybodol y byddai’r Euros yn ddigwyddiad mawr, doeddwn ni ddim yn disgwyl cynulleidfaoedd o'r maint yna.”

Gyda sawl un yn edrych ymlaen at Gwpan Rygbi’r Byd, mae Florian Feuillais bellach wedi sicrhau y bydd digon o gwrw ar gael i gefnogwyr Cymru dros gyfnod y bencampwriaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.