RAAC mewn ysgolion: Y darlun diweddaraf o siroedd Cymru
Mae darganfod Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) wedi arwain at gau dwy ysgol ar Ynys Môn yr wythnos hon. Roedd disgyblion i fod i ddychwelyd i Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi ddydd Mawrth. Dyma'r ysgolion cyntaf yng Nghymru i gael eu nodi fel rhai sydd â choncrit diffygiol RAAC.
Mae dros 150 o ysgolion, colegau a meithrinfeydd wedi gorfod cau'n rhannol neu'n llwyr yn Lloegr dros y dyddiau diwethaf o achos pryderon am bresenoldeb RAAC, a bu'n rhaid cau rhan o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn ddiweddar wedi i'r concrit diffygiol gael ei ddarganfod yno.
Beth felly yw'r darlun diweddaraf mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru? Fe ofynnodd Newyddion S4C i'r 22 awdurdod lleol am y sefyllfa yn eu hygolion ac hyd yma, mae 13 cyngor wedi ymateb. Dyma'r hyn yr oedd gan lefarwyr ar ran yr 13 cyngor i'w ddweud:
Sir Conwy:
"Mae gennym raglen archwilio reolaidd ar gyfer yr holl eiddo, ac nid ydym wedi canfod pryderon yn ymwneud â RAAC.
Cyn i ganllawiau diwygiedig yr Adran Addysg (DfE) gael eu cyhoeddi ym mis Awst 2023, yr oeddem eisoes wedi ychwanegu at y drefn hon ar gyfer pob eiddo y mae’n bosibl yr effeithiwyd arnynt, drwy gomisiynu peirianwyr annibynnol i gynnal profion pellach i gadarnhau a oedd unrhyw broblemau. Yr ydym yn disgwyl i’r gwaith hwn gael ei gwblhau ac am yr adroddiad terfynol.
Mae’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr Strategol, yr Arweinydd ac Aelodau’r Cabinet wedi cyfarfod â’r gwasanaethau perthnasol ddoe, a byddant yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus."
Sir Fynwy:
"Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall y risg o RAAC mewn ysgolion ac adeiladau awdurdodau lleol eraill. Mae adolygiadau cychwynnol wedi'u cynnal gan beirianwyr arbenigol ac os oes angen ymchwiliadau pellach, bydd hyn yn cael ei gynnal. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan yr arbenigwyr yn y maes hwn."
Sir Benfro:
"Mae holl adeiladau corfforaethol y Cyngor Sir (gan gynnwys eiddo Addysgol) yn cael eu harchwilio am ddiffygion er mwyn llywio gofynion cynnal a chadw yn y dyfodol. Mae arolygon cyflwr wedi'u cynnal ar bob un o'n hadeiladau ysgol ac mae rhaglen arolygu cyflwr barhaus ar waith ar gyfer ein hadeiladau corfforaethol. Hyd yma nid oes concrit awtoclaf wedi'i nodi yn unrhyw un o'n heiddo."
Gwynedd:
“Rydym yn nodi datganiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â Choncrid Awyredig Aerwydedig Atgyfnerthedig (RAAC) a gyhoeddwyd heddiw (Llun, 4 Medi), ac rydym eisoes wedi dechrau ar ymarferiad i gadarnhau’r sefyllfa.
“Byddwn yn parhau i gydweithio â’r llywodraeth a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwn yn unol â’r canllawiau a’r gofynion cenedlaethol perthnasol.
“Mae diogelwch holl ddefnyddwyr ein hadeiladau a’n staff yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd. Bydd pob ysgol yn agor yn ôl yr arfer pan bydd y tymor newydd yn dechrau yfory a byddwn yn diweddaru rhanddeiliaid, yn ôl yr angen.”
Ceredigion:
"Nid oes gennym unrhyw bryderon uniongyrchol bod concrit aeredig wedi'i awtoclafio a'i atgyfnerthu (RAAC) wedi'i ddefnyddio i adeiladu adeiladau ysgol Ceredigion, fodd bynnag bydd angen cynnal asesiadau manwl pellach i gadarnhau'r sefyllfa'n llawn. Mae gan y Gwasanaeth Cynnal a Chadw Adeiladau amserlen barhaus o ymweliadau Iechyd a Diogelwch i holl adeiladau'r Awdurdod Lleol, gan gynnwys ysgolion."
Sir y Fflint:
“Yn 2019, cysylltodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru â’r holl Gynghorau i dynnu sylw at fethiant to fflat a adeiladwyd gan ddefnyddio concrit aeredig wedi’i awtoclafio wedi’i atgyfnerthu (RAAC).
“Mae’r Cyngor yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli portffolio eiddo o dros 600 o eiddo, sy’n cwmpasu ystod amrywiol o adeiladau o ysgolion i unedau diwydiannol. Caiff y rhain eu harolygu/ailarolygu gan syrfewyr siartredig annibynnol ar raglen dreigl i sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio'n llawn â deddfwriaeth gyfredol. Canlyniad y rhaglen dreigl o arolygon cyflwr adeiladau sy’n eiddo i’r cyngor yw nad oes unrhyw RAAC wedi’i adrodd.”
Pen-y-bont ar Ogwr:
“Gallwn gadarnhau nad oes unrhyw bryderon uniongyrchol mewn perthynas â’r defnydd o RAAC ar unrhyw un o’n hadeiladau. Mae ein tîm peirianneg strwythurol yn adolygu ein portffolio eiddo ar frys ac os oes hyd yn oed y mymryn lleiaf o amheuaeth, byddant yn cyfarwyddo syrfewyr i fynychu arolygiad fel rhagofal.
“Hoffem roi sicrwydd i’r cyhoedd nad oes gennym unrhyw bryderon RAAC ar hyn o bryd ac nid yw pob arolwg ac arolygiad diweddar wedi amlygu unrhyw broblemau.”
Cyngor Dinas Caerdydd:
“Mae ein harolygwyr arbenigol ar hyn o bryd yn blaenoriaethu ysgolion Caerdydd a hyd yma ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw RAAC.
“Mae’r rhaglen arolygu yn blaenoriaethu adeiladau ysgol a godwyd pan ddefnyddiwyd y deunydd hwn yn rheolaidd a bydd yn parhau hyd nes y bydd yr holl adeiladau perthnasol wedi’u harolygu, disgwylir i’r rhaglen hon gael ei chwblhau erbyn diwedd mis Medi.
“Os byddwn yn canfod unrhyw RAAC a amheuir, bydd mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith a bydd ymgynghorydd arbenigol RAAC yn cynnal asesiad manwl i roi cyngor ar gamau adferol a allai fod yn ofynnol.
“Gyda rhaglen arolygu RAAC ysgolion bron wedi’i chwblhau, mae ein tîm arolygu yn llunio amserlen arolygu ar gyfer pob adeilad arall sy’n eiddo i Gyngor Caerdydd, wedi’i raglennu ar sail blaenoriaeth.”
Cyngor Dinas Abertawe:
"Gallwn gadarnhau nad oes gennym unrhyw adeiladau cyngor nac ysgolion wedi'u hadeiladu gan ddefnyddio RAAC."
Merthyr:
"Bydd yr holl arolygiadau strwythurol ysgolion wedi'u cwblhau erbyn diwedd yr wythnos hon a hyd yma nid oes unrhyw slabiau RAAC wedi'u canfod mewn unrhyw ysgol. Byddwn yn cynnal archwiliadau ar holl adeiladau eraill y cyngor yr wythnos nesaf."
Sir Gaerfyrddin:
"Er nad ydym yn rhagweld unrhyw arwyddion o RAAC, os canfyddir ei bresenoldeb yn unrhyw un o’n hysgolion yn ystod yr asesiadau dilynol hyn, gallwn eich sicrhau y byddwn yn mynd i’r afael â’r sefyllfa yn brydlon ac yn bendant. Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr, ein haddysgwyr ac aelodau staff.
“Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio’n ddiwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru i fonitro’r sefyllfa’n agos, blaenoriaethu diogelwch, a gweithredu mesurau priodol mewn ymateb i unrhyw bryderon a all godi.”
Casnewydd:
“Yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol, nid yw Cyngor Dinas Casnewydd yn credu bod y mater hwn yn effeithio ar ei stad.
“Byddwn yn cydweithredu’n llawn â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal arolwg o bob ysgol a choleg.
“Rydym am roi sicrwydd i rieni, staff a defnyddwyr gwasanaeth nad oes gennym unrhyw bryderon uniongyrchol ond os bydd yr adolygiadau’n codi unrhyw faterion posibl, yna bydd camau’n cael eu cymryd.”
Caerffili:
“Cynhaliodd Adran Gwasanaethau Eiddo Caerffili adolygiad o’n portffolio adeiladu cyfan yn 2021, a oedd yn cynnwys arolygon a gynhaliwyd gan arbenigwr strwythurol annibynnol ar safleoedd yr ystyriwyd eu bod mewn perygl o gynnwys RAAC.
“Ni ddarganfuwyd bod unrhyw un o’r adeiladau a arolygwyd yn cynnwys y deunydd.”
Powys:
"Ar hyn o bryd, nid ydym yn ymwybodol fod RAAC yn bresennol yn ysgolion yr awdurod lleol. Fe wnaeth y cyngor ymchwilio i'r mater yn 2020.
"Ond yn dilyn y datblygiadau diweddaraf a'r cynghorion ychwanegol sydd wedi eu cyhoeddi, rydym bellach yn y broses o gynnal nifer fechan o arolygon ychwanegol mewn ysgolion.
"Rydym yn disgwyl y bydd y gwaith ychwanegol hwnnw wedi ei gwblhau yn y dyddiau nesaf."
Blaenau Gwent:
“Mae diogelwch a lles disgyblion ysgol yn brif flanoriaeth i ni. Wedi rhai asesiadau sydd wedi eu cynnal yn ystod y dyddiau diwethaf, gallwn bellach nodi gyda lefel uchel iawn o sicrwydd nad oes unrhyw ysgol ym Mlaenau Gwent yn cynnwys RAAC.
“Byddwn nawr yn cynnal asesiadau ar adeiladau eraill."