Newyddion S4C

Arestio dyn ar amheuaeth o ymosod ar Roy Keane

04/09/2023
roy keane

Mae dyn, 42 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod ar y cyn bêl-droediwr a'r sylwebydd Roy Keane, wedi digwyddiad yn Stadiwm Emirates, ddydd Sul.

Digwyddodd yr ymosodiad honedig yn dilyn buddugoliaeth Arsenal dros Manchester United.

Roedd Roy Keane yn sylwebu ar y  gêm. 

Mae lluniau, a gafodd eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos ei gyd-sylwebydd Sky Sports, Micah Richards, yn dal dyn yn erbyn wal eiliadau ar ôl yr ymosodiad honedig, ddydd Sul.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu’r Metropolitan Llundain: “Mae’r heddlu’n ymchwilio i ddigwyddiad yn Stadiwm Emirates ddydd Sul, Medi 3, pan ymosodwyd ar ddyn.

“Ddydd Llun, Medi 4, cafodd dyn 42 oed ei arestio ar amheuaeth o ymosod (ABH).

“Mae’r dyn wedi’i gludo i ddalfa’r heddlu.”

Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Dywedodd Sky Sports fod Micah Richards wedi ceisio “atal” y sefyllfa ar ôl yr ymosodiad honedig.

Dywedodd llefarydd ar ran y darlledwyr: “Rydym yn deall bod yr heddlu’n ymchwilio i ymosodiad honedig gan aelod o’r cyhoedd yn union cyn y ffilm sy’n cylchredeg ar gyfryngau cymdeithasol.

“Yn y ffilm sydd wedi cael ei gweld, roedd Micah Richards yn gweithredu i dawelu’r sefyllfa.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.