Mark Drakeford: 'Heb droi cefn ar gyfnodau clo lleol'
Mark Drakeford: 'Heb droi cefn ar gyfnodau clo lleol'
Mae'r Prif Weinidog wedi dweud nad yw'r llywodraeth wedi troi ei chefn ar gyflwyno cyfnodau clo lleol petai'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwaethygu.
Serch hynny, dywedodd Mark Drakeford nad ydyn nhw'n ystyried y mesurau yma ar hyn o bryd.
Yn gynharach yn y gynhadledd i'r wasg, dywedodd fod yr amrywiolyn Delta yn ychwanegu "lefel newydd o ansicrwydd a chymlethdod".
Yr amrywiolyn Delta, sy'n deillio o India, bellach yw'r prif straen mewn achosion newydd o Covid-19 yn Lloegr a'r Alban.
Mae 97 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru, gyda'r clwstwr mwyaf yn ardal sir Conwy.
Mae trigolion ardal Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn wedi derbyn cyfarwyddyd i fynd am brawf, hyd yn oed os nac oes ganddyn nhw symptomau.
Cafodd trigolion yn ardal Porthmadog hefyd gyfarwyddyd nos Iau i fynd am brawf, ar ôl i ddau achos o'r amrywiolyn Delta gael eu cadarnhau yn yr ardal.
'Byth wedi troi cefn'
Dywedodd Mr Drakeford: "Ni byth wedi deud ein bod wedi troi cefn ar 'neud pethe lleol, os mae hwnna yn neud synnwyr o safbwynt iechyd y cyhoedd.
"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn y sefyllfa 'na yn y gogledd nac yn y de.
"Ond os ydy'r sefyllfa yn datblygu, ac mae'r cyngor yn dweud wrthyn ni mai'r ffordd gorau o ddelio hefo'r sefyllfa 'na, yw i 'neud mwy ac i wneud o'n lleol, yna wrth gwrs ni'n agored i'r cyngor 'na".