Newyddion S4C

Yr argyfwng costau byw yn arwain at 'hylendid gwael' wrth i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol

04/09/2023
Gwisgoedd Ysgol

Gyda channoedd ar filoedd o ddisgyblion ar fin dychwelyd i’r ysgol ddydd Llun a Mawrth, mae rhai athrawon yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y plant sydd â phroblemau hylendid - a hynny oherwydd yr argyfwng costau byw.

Mae bron i dri o bob pedwar athro a ymatebodd i arolwg a gynhaliwyd ar draws y DU wedi dweud eu bod nhw wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o ddisgyblion â hylendid gwael o ganlyniad i broblemau tlodi.

Yn ôl yr arolwg, gan yr elusen The Hygiene Bank a’r cwmni golchi dillad, smol, mae 71% o athrawon yn dweud eu bod yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer yr achosion o’r fath wrth i ddisgyblion dychwelyd i’r ysgol. 

Y prif arwyddion o 'dlodi hylendid' yn ôl yr athrawon a ymatebodd i'r arolwg, oedd plant yn dod i'r ysgol mewn gwisg neu git ymarfer corff budr, gwallt heb ei olchi neu ddannedd heb eu brwsio.

Mae diffyg hylendid yn gysylltiedig â thlodi, meddai The Hygiene Bank, gydag aelwydydd yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi’r tŷ, talu biliau, prynu bwyd neu gadw’n lân.

‘Annerbyniol’

Mae gan elusen The Hygiene Bank sawl cangen er mwyn ceisio mynd i’r afael â thlodi, gyda phrosiect newydd wedi’i lansio yn Aberdâr y llynedd.  

Mae'r elusen yn awyddus i fynd i afael â’r argyfwng costau byw, gan helpu athrawon sy’n teimlo’n “ddi-rym” wrth ddelio ag achosion o hylendid gwael yn yr ysgol. 

Yn ôl yr arolwg, roedd 53% o athrawon yn dweud bod y plant â hylendid gwael yn cael eu heithrio gan ddisgyblion eraill.

Roedd 50% o athrawon wedi nodi’r effaith negyddol yr oedd hynny yn ei gael ar iechyd meddwl disgyblion.

Dywedodd Julie McCulloch, pennaeth polisi ar gyfer yr Association of School and College Leaders: “Mae problemau hylendid yn gysylltiedig â lefelau uchel iawn o dlodi, wrth i deuluoedd frwydro gyda nifer o gostau, gan gynnwys peirannau golchi, biliau ynni a dillad. 

“Mae nifer o ysgolion yn ceisio rhoi cymorth i deuluoedd trwy olchi dillad a darparu eitemau gwisg ysgol.

“Mae’r broblem wedi gwaethygu yn sgil y pandemig a’r argyfwng costau byw. 

“Mae lefelau tlodi plant yn y DU yn hollol annerbyniol ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu er mwyn taclo’r broblem yma.”

Llun: David Jones/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.