Dyn mewn 'cyflwr difrifol' ar ôl cael ei daro gan gar ym Merthyr Tudful
Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad yn dilyn gwrthdrawiad yng nghanol Merthyr Tudful nos Sadwrn.
Fe gafodd dyn 28 oed o Bentrebach ei daro gan gar oedd yn teithio ar hyd Stryd y Castell am oddeutu 23.50, gan achosi anaf difrifol iddo.
Mae’r dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol.
Ni stopiodd gyrrwr y cerbyd ar ôl y gwrthdrawiad, yn ôl Heddlu De Cymru.
Mae dyn 19 oed o Dredegar wedi ei harestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Mae’r heddlu’n apelio am lygad-dystion ac unrhyw un sydd â delweddau ffon symudol neu dashcam o’r digwyddiad.
Mae'r llu yn annog y cyhoedd i gysylltu, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2300296253.