Cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Tata Steel yn 'rhoi miloedd o swyddi dur yn y fantol'
Mae un o gewri gwaith dur y wlad, Tata Steel, yn y broses o drafod cytundeb gyda Llywodraeth y DU allai arwain at fuddsoddiad o £1 biliwn ar gyfer eu safle ym Mhort Talbot.
Ond fe allai’r cytundeb hefyd arwain at golli miloedd o swyddi'r cwmni, gan gynnwys yn ne Cymru, yn ôl adroddiad gan Sky News.
Byddai'r cytundeb yn arwain y llywodraeth i fuddsoddi £500 miliwn o arian cyhoeddus yn y gobaith o ddiogelu’r diwydiant yn hirdymor.
Ond fe allai hyd at 3,000 o weithwyr golli eu swyddi petai Tata Steel a'r Llywodraeth yn dod i gytundeb.
Mae oddeutu 4,000 o weithwyr ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot - hanner gweithlu'r cwmni yn y DU.
Yn ôl Sky News byddai'r llywodraeth yn ymrwymo i fuddsoddi £500 miliwn o gyllid cyhoeddus i’r cwmni, gyda rhiant-gwmni Indiaidd Tata Steel yn cytuno ar wariant cyfalaf o £700 miliwn dros gyfnod o sawl blwyddyn.
Bydd rhaid i Tata Steel ymrwymo i adeiladu ffwrneisi trydanol fel rhan o’r cytundeb, yn ôl yr adroddiad.
Byddai hyn yn symleiddio’r proses o greu dur, gan hefyd geisio mynd i’r afael ag allyriadau carbon y cwmni.
‘Trafodaethau’
Wrth siarad â Sky News, dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: “Mae Tata Steel yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â fframwaith i sicrhau dyfodol gwaith dur yn y DU, yn ogystal â’i ddatgarboneiddio.
“Daw hyn ymysg amgylchiadau heriol iawn, gan gymryd bod sawl un o’n hasedau yn dod i ddiwedd eu hoes.
“Yn sgil sefyllfa ariannol gyfyngedig ein busnes Prydeinig, mae newid ar raddfa sylweddol yn ddibynnol ar fuddsoddiad a chefnogaeth Llywodraeth y DU.
“Gwelir hyn hefyd yng ngwledydd eraill sy’n creu dur ledled Ewrop, ac mae llywodraethau yn cefnogi cwmnïau gyda strategaethau datgarboneiddio,” meddai.
Mewn ymateb i’r adroddiad dywedodd Sharon Graham, sef ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Unite, y byddai’r undeb yn bwriadu lansio “ymgyrch sylweddol” yn erbyn datblygiadau pellach er mwyn diogelu swyddi.
“Fe allai’r llywodraeth ein sefydlu ni fel prifddinas gwaith dur ‘gwyrdd’ Ewrop i gyd – ond yn hytrach, maen nhw wedi penderfynu diswyddo pobl.
“Rydym am lansio ymgyrch sylweddol ac rydym yn disgwyl i Lafur ymrwymo i ddyfodol gwell ar gyfer dur yn y DU.”
Llun: Sionk/Wikimedia Commons